Ailbenodiadau
- BILl Cwm Taf, Cadeirydd: Chris Jones
- BILl Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Is-gadeirydd: Ed Roberts
- BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr, Is-gadeirydd: Lyndon Miles
- BILl Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Aelod Annibynnol: Barry Goldberg
- BILl Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Aelod Annibynnol: Michael Williams
- BILl Aneurin Bevan, Aelod Annibynnol: Wendy Bourton OBE
- BILl Aneurin Bevan, Aelod Annibynnol: Helen Houston
- BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr, Aelod Annibynnol: Harri Owen-Jones
- BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr, Aelod Annibynnol: Hywel Davies
- BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr, Aelod Annibynnol: Hilary Stevens
- BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Aelod Annibynnol: Margaret McLaughlin
- BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Aelod Annibynnol: Ivar Grey
- BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Aelod Annibynnol: Martyn Waygood
- BILl Cwm Taf, Aelod Annibynnol: Donna Mead OBE
- BILl Hywel Dda, Aelod Annibynnol: Eifion Griffiths
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Aelod Annibynnol: Roger Eagle
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Aelod Annibynnol: Gloria Jones-Powell
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Aelod Annibynnol: Kevin Fitzpatrick
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Aelod Annibynnol: Simon Smail
Penodiad newydd
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Aelod Annibynnol: Phil Roberts
Meddai Lesley Griffiths:
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wynebu amryw o heriau, gan gynnwys cynnydd yn y boblogaeth oedrannus, anghydraddoldebau o ran iechyd, mwy o bobl â chyflyrau cronig, pwysau o ran staff meddygol, a rhai gwasanaethau arbenigol yn wasgarog a phrin.
“Bydd profiad yr aelodau hyn yn gymorth wrth inni roi’r newidiadau angenrheidiol ar waith i ateb yr heriau a amlinellir yn ein gweledigaeth pum mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru, sef Law yn Llaw at Iechyd.”
Y Byrddau Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am gynllunio, dylunio, datblygu a chyflenwi gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol, ac mewn ysbytai, a lle bo’n briodol, wasanaethau arbenigol ar gyfer dinasyddion eu hardaloedd eu hunain er mwyn diwallu anghenion canfyddedig, a hynny o fewn y fframwaith polisi a safonau cenedlaethol a osodwyd gan y Gweinidog.
Mae Ymddiriedolaethau’r GIG yn unedau hunanlywodraethol sy’n gyfrifol am berchnogaeth a rheolaeth ysbytai neu sefydliadau neu gyfleusterau eraill sy’n eiddo iddynt. Maent hefyd yn gyfrifol am gyflawni’r swyddogaethau unigol a nodir yn eu Gorchymyn Sefydlu.
Gwnaed y penodiadau yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod, ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae’n ofynnol i weithgarwch gwleidyddol y rhai a benodir (os ydynt wedi datgan hynny) ddod yn wybodaeth gyhoeddus.











