Aeth Carwyn Jones, y Prif Weinidog a Lesley Griffith, y Gweinidog Iechyd i Ysbyty Treforys, Abertawe i hyrwyddo’r ymgyrch. Daw hyn ar ôl lansio gwefan ym mis Ionawr i roi rhagor o wybodaeth i ddarpar-feddygon am fanteision gweithio yng Nghymru.
Mae’r pecyn Gweithio i Gymru / Work for Wales yn cynnwys:
- mynd â’r ymgyrch Gweithio i Gymru i ffeiriau recriwtio a digwyddiadau gyrfa ym maes meddygaeth ledled y DU, ac ar unrhyw ymgyrchoedd recriwtio dramor;
- rhaglen weithgar ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi, gan gynnwys y cynllun Invent, sy’n dyfarnu arian i glinigwyr yng Nghymru i’w galluogi i ddatblygu dyfeisiadau;
- ymrwymiad i barhau i ddarparu llety i feddygon dan hyfforddiant yn eu blwyddyn gyntaf – Cymru yw’r unig wlad yn y DU i gynnig hyn i fyfyrwyr meddygaeth, ac mae llawer o’r cyfleusterau llety wrthi’n cael eu huwchraddio;
- creu rhwydwaith o lysgenhadon clinigol dros Gymru – sef staff meddygol uwch a fydd yn hyrwyddo’r hyn sydd orau am Gymru fel gwlad i fod yn feddyg ynddi.
Wrth lansio’r ymgyrch, dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:
“Bydd yr ymgyrch Gweithio i Gymru yn hyrwyddo’r cyfleoedd unigryw y mae Cymru yn eu rhoi i feddygon ar bob lefel, o lety am ddim i’r rhai sy’n cychwyn ar eu gyrfa a chynlluniau sy’n gwobrwyo staff am ddatblygu syniadau sydd o fudd i ofal cleifion, i’r cyfleoedd unigryw ar lefel uwch-feddygon ymgynghorol o ran arwain arloesedd mewn gofal.”
“Mae rhai arbenigeddau meddygol, a rhai rhannau o Gymru, wedi cael trafferth llenwi swyddi gwag ers tro.
“Nid yng Nghymru yn unig y mae hyn yn broblem, oherwydd mae prinder meddygon yn y DU sy’n arbenigo ar feddygaeth frys, seiciatreg a phaediatreg. Bydd yr ymgyrch yn gwerthu Cymru fel gwlad wych i fyw a gweithio ynddi.”
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd:
Rhaid inni sicrhau bod y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yng Nghymru yn cael sylw a chyhoeddusrwydd y tu allan i Gymru. Rwy’n wir yn credu ein bod yn y gorffennol wedi bod yn rhy gyndyn i dynnu sylw at ein llwyddiant.
“Dyma rywbeth y mae’n rhaid inni ei newid, a bydd Gweithio i Gymru yn rhoi cyfle i feddygon o’r tu allan i Gymru ac sy’n ystyried adleoli drafod pa gyfleoedd sy’n bodoli, a beth y mae byw a gweithio yng Nghymru yn ei gynnig.”
Dywedodd Jon Featherstone, llawfeddyg wrolegol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg sydd wedi elwa ar y rhaglen Invent:
“Roeddwn wrth fy modd pan dderbyniais £30,000 trwy’r cynllun Invent i roi cyfle gwych imi ddatblygu fy syniad ar gyfer dyfais llawfeddygol newydd. Mae’r arian wedi fy ngalluogi i gynllunio’r ddyfais, datblygu prototeip, a gwneud cais am batent.
“Mae Invent yn gynllun unigryw a fydd, rwy’n sicr, yn rhywbeth deniadol i lawer o glinigwyr sy’n ystyried gweithio yng Nghymru.”
Cyhoeddwyd enwau’r hyrwyddwyr clinigol heddiw, a bydd y rhwydwaith yn ymestyn dros y misoedd diwethaf i gynnwys Cyfarwyddwyr Meddygol, meddygon ymgynghorol, academyddion ymchwil, a meddygon teulu sy’n gweithio mewn amrywiaeth o arbenigeddau meddygol, gyda phob un yn cyfrannu fel llysgenhadon ac yn manteisio ar gyfleoedd i hyrwyddo Cymru, er enghraifft mewn digwyddiadau yn y DU a thramor, megis cynadleddau meddygol.
Heddiw, dywedodd Jane Harrison, un o’r hyrwyddwyr clinigol:
“Fe wnes i symud i Gymru gyda fy nheulu ddeunaw mlynedd yn ôl, ar ôl hyfforddi a gweithio yn Llundain. Fe ddewison ni ffordd o fyw a oedd yn rhoi’r gorau o bopeth inni – cartref yr oedden ni’n gallu ei fforddio mewn amgylchedd gwledig braf, cyfleoedd swyddi ar gyfer fy ngŵr, a dewis o ysgolion gwladol rhagorol.
“Mae’r agenda iechyd yng Nghymru yn ymwneud â gofal integredig sy’n cadw egwyddorion gwreiddiol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Aneurin Bevan, ac mae’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer yr adegau heriol sydd i ddod. Mae gweithio yma fel Meddyg Teulu yn cynnig cymaint i’r rhai sy’n dymuno cadw ffocws clinigol pur ar eu gwaith, neu’r rhai a hoffai gyfuno hyn gyda phrofiad o ddatblygu gwasanaethau gofal sylfaenol arloesol i’w cleifion.”
Bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal dros y 12-18 mis nesaf. Bydd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys erthyglau cyhoeddusrwydd yn y wasg feddygol ac arbenigol i gyd-fynd â rowndiau recriwtio.
Hefyd, cynhelir seminarau arloesi wedi eu hanelu at feddygon o’r DU a thramor er mwyn clodfori ac arddangos arferion ac ymchwil arbennig ym maes meddygaeth, gyda’r gyntaf ohonynt yn cael ei chynnal yn ddiweddarach eleni.