Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Labordai pwrpasol yn “fagwrfa ar gyfer arloesi”

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi agor labordai newydd o’r radd flaenaf sydd wedi eu creu i sicrhau bod GIG Cymru yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.
Dydd Llun 23 Ebrill 2012
Ymwelodd y Gweinidog â Labordai Ymchwil Gwybodeg Iechyd GIG Cymru sydd wedi symud i le pwrpasol yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae’r labordai ymchwil wedi eu creu fel petaent yn ‘GIG mewn labordy’, sef cyfleuster diogel a hygyrch ar gyfer ymchwil i astudio profiad pobl ar eu taith fel cleifion, a sut y gellid gwella hynny trwy ddefnyddio technoleg. 

Mae’r labordai’n gosod Cymru ar flaen y gad ym maes e-iechyd, ac yn nodi ffyrdd o wella gwasanaethau i gleifion. 

Yn y labordai, mae nifer o leoliadau sy’n cynrychioli cartref y claf, meddygfa, ward ysbyty, gwasanaeth y tu allan i oriau, a fferyllfa.
 
Defnyddir y rhain i gynrychioli sefyllfaoedd pryd y bydd cleifion yn derbyn gofal, a lle mae modd profi’r technolegau newydd i’w defnyddio ym maes iechyd i weld a ydynt yn ddiogel, yn ddefnyddiol ac yn gallu rhyngweithredu. 

Mae’r Labordai:
  • yn dwyn ynghyd staff gofal iechyd, ymchwilwyr a chwmnïau i ganfod dyfeisiadau gofal iechyd
  • yn gwneud y gorau o’r wybodaeth bresennol sydd gan y Brifysgol a GIG Cymru er mwyn datblygu’r economi e-iechyd
  • yn darparu cyfleoedd i gwmnïau yng Nghymru ddatblygu eu sgiliau a’u cynnyrch
  • yn galluogi dyfeisiadau i gael eu rhannu gan wasanaethau iechyd yn y DU ac yn fyd-eang
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd: 
 
“Mae gan y labordai rôl amlswyddogaeth. Maent yn profi technolegau newydd ar gyfer GIG Cymru, ac yn gweithredu fel magwrfa ar gyfer arloesi, gan greu cydweithrediadau gyda diwydiannau lleol a chenedlaethol, a chreu economi gadarn ym maes e-Iechyd.
 
“Diolch i’r Rhaglen Hysbysu Gofal Iechyd, a’r gefnogaeth a gafodd honno gan y Labordai, rydym wedi dechrau newid tirlun technoleg gofal iechyd, a’i gwneud yn haws i’n meddygon a’n nyrsys ddarparu’r gofal gorau i gleifion.
 
“Mae hyn yn dangos sut mae modd sicrhau llwyddiannau mawr pan fo iechyd, academia, diwydiant a llywodraeth yn cydweithio.”
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Health Informatics Research Laboratories GIG Cymru Gwasanaeth Gwybodeg

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 23 Ebrill 2012 Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i