Roedd y Gweinidog ar ymweliad â Chanolfan Feddygol Glanrafon a agorodd i’r cyhoedd ddiwedd mis Mawrth. Mae’r ganolfan yn gartref i ddau bractis meddyg teulu ynghyd â gwasanaethau eraill. Hefyd, mae digonedd o le i ychwanegu mwy o wasanaethau yn y dyfodol.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae darparu nifer o wasanaethau mewn un lleoliad yn gyfleus iawn i gleifion. Bydd y cyfleusterau gwych hyn yng Nglanrafon yn gwneud hyn. Mae cyfleusterau pwrpasol fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion ac i’r staff. Mae’n enghraifft o’r effaith y gall buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd ei chael.”
Mae’r ganolfan, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, yn cynnwys naw ystafell ymgynghori, tair ystafell driniaeth, ystafell ar gyfer gwasanaethau podiatreg a fferyllfa. Mae yna hefyd ystafell hyfforddiant ymgynghori – a fydd o gymorth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth wireddu’r ymrwymiad i gynyddu practisau hyfforddi yn yr ardal.
Y ddau bractis meddyg teulu fydd wedi’u lleoli yn y Ganolfan fydd Practis Bradley a Phractis Grosvenor Street, ynghyd â gwasanaethau clinigol ategol.











