Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Canolfan Feddygol Newydd yr Wyddgrug o Fudd i Gleifion a Staff

Heddiw, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, fod Canolfan Feddygol newydd yn yr Wyddgrug o fudd mawr i gleifion. Mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau mewn un lleoliad cyfleus.
Dydd Iau 17 Mai 2012

Roedd y Gweinidog ar ymweliad â Chanolfan Feddygol Glanrafon a agorodd i’r cyhoedd ddiwedd mis Mawrth. Mae’r ganolfan yn gartref i ddau bractis meddyg teulu ynghyd â gwasanaethau eraill. Hefyd, mae digonedd o le i ychwanegu mwy o wasanaethau yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae darparu nifer o wasanaethau mewn un lleoliad yn gyfleus iawn i gleifion. Bydd y cyfleusterau gwych hyn yng Nglanrafon yn gwneud hyn. Mae cyfleusterau pwrpasol fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion ac i’r staff.  Mae’n enghraifft o’r effaith y gall buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd ei chael.”

Mae’r ganolfan, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, yn cynnwys naw ystafell ymgynghori, tair ystafell driniaeth, ystafell ar gyfer gwasanaethau podiatreg a fferyllfa. Mae yna hefyd ystafell hyfforddiant ymgynghori – a fydd o gymorth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth wireddu’r ymrwymiad i gynyddu practisau hyfforddi yn yr ardal.

Y ddau bractis meddyg teulu fydd wedi’u lleoli yn y Ganolfan fydd Practis Bradley a Phractis Grosvenor Street, ynghyd â gwasanaethau clinigol ategol.  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 17 Mai 2012 Cymru iachach Gwella iechyd Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Awst 2014
Ll M M I G S S
<< Gor    
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30 31
I'n dilyn ni trowch i