Cafodd ymgyrch Cychwyn Iach ei lansio gan gyn Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell ym mis Chwefror ac mae’n galw ar rieni sy’n smygu i gadw’r awyr yn eu ceir yn lân wrth gludo plant.
Bydd pecyn ar gael yn fuan i annog a chefnogi’r rhai sy’n smygu yn eu ceir i roi’r gorau iddi wrth deithio, yn enwedig dros wyliau’r haf.
Mae’r pecynnau Cychwyn Iach yn rhoi cynghorion defnyddiol ac yn awgrymu sut y gall smygwyr eu hamddiffyn eu hunain a’u teuluoedd rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law. Maent hefyd yn cynnwys llawer o nwyddau ymarferol, sydd wedi’u cynllunio gan smygwyr a phobl oedd yn arfer smygu, i helpu rhieni i gymryd y cam nesaf a rhoi’r gorau i smygu yn llwyr.
Mae pob pecyn yn cynnwys tangl, llawlyfr Cychwyn Iach, cynlluniwr teithiau gyda sticeri, sticer car di-fwg, olwyn Iechyd a Chyfoeth, cadw-mi-gei a thaflen ‘Beth sydd mewn sigarét?’.
Bydd ar gael erbyn canol mis Awst, ond mae’n bosibl ei archebu yn awr o wefan Cychwyn Iach www.cychwyniachcymru.co.uk. Bydd ar gael mewn fferyllfeydd cymunedol hefyd, gan eu bod hwy mewn sefyllfa dda i annog cwsmeriaid i feddwl pam eu bod yn smygu ac i ystyried rhoi’r gorau iddi.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:
“Byddwn i’n annog rhieni sy’n smygu i wneud Addewid yr Haf i beidio smygu pan fo’u plant yn y car.
“Mae gwaith ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn dangos bod plant sy’n anadlu mwg sigarét pobl eraill mewn mwy o berygl o ddatblygu heintiau anadlol, clefyd y glust ganol ac asthma.
“Ychydig iawn o fwg sigarét y mae’n bosibl ei weld ac ni allwch ei arogli, felly fe all rhieni sy’n smygu yn eu ceir fod yn niweidio eu plant heb sylweddoli hynny. Fe all aros yn yr awyr am hyd at ddwyawr ar ôl i’r sigarét gael ei ddiffodd ac fe all amsugno i leinin seddi a charpedi ceir teuluol.
“Dylai rhieni wneud Addewid yr Haf, ac addo i gadw eu ceir yn ddi-fwg er lles iechyd eu plant.”
Gall pobl sy’n dymuno gwneud Addewid yr Haf, neu sydd am ddangos eu cefnogaeth i ymgyrch Cychwyn Iach Cymru, lofnodi’r map addewid ar-lein yn Facebook.com/FreshStartWales neu yn www.cychwyniachcymru.co.uk. Mae’r ymgyrch hefyd ar Twitter yn @FreshStartWales.











