Mae’r cynllun hwn, ar gyfer Cymru gyfan, yn cydnabod landlordiaid da ac yn eu helpu i wahaniaethu eu hunain oddi wrth y landlordiaid llai cyfrifol sy’n rhoi enw drwg i’r farchnad rentu.
Mae’r cynllun hefyd yn helpu tenantiaid i gael hyd i landlordiaid proffesiynol sy’n cynnig llety o ansawdd a reolir yn dda.
Bydd y landlordiaid sy’n ymuno â’r cynllun yn llofnodi cod ymddygiad. Bydd y cod hwn yn mynnu eu bod yn gweithio o fewn y rheolau cyfreithiol wrth osod a rheoli eiddo. Bydd hefyd yn sicrhau bod gwaith brys yn cael ei gyflawni’n brydlon.
Bydd y rhai sy’n ymuno yn mynd ar gwrs byr i gael cyngor ar faterion landlordiaid a thenantiaeth, iechyd a diogelwch, contractau a rheoli eiddo.
Wrth lansio’r fenter mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, dywedodd Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai:
Ym mhob proffesiwn, mae lleiafrif bach sy’n rhoi enw drwg i’r gweddill. Bydd y prosiect hwn a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn helpu pobl i gael hyd i landlordiaid cydnabyddedig sydd wedi llofnodi cod ymddygiad ac sy’n darparu gwasanaeth gonest, agored. Y landlordiaid da yw’r rheini sy’n sicrhau bod eu heiddo mewn cyflwr da ac yn cael ei reoli’n briodol.
Mae’n arbennig o galonogol fod pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun hwn, a’i fod wedi sicrhau cefnogaeth a chyfranogiad hollbwysig y cymdeithasau landlordiaid ac asiantaethau gosod tai. Dyma enghraifft dda o gydweithio a fydd yn esgor ar fanteision gwirioneddol i denantiaid, landlordiaid ac asiantaethau.
Esboniodd Ms Davies fod y cynllun achredu yn un o nifer o fesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad er mwyn cefnogi’r sector rhent preifat yng Nghymru.
Ychwanegodd Ms Davies:
Rwy’n sicr y bydd y cynllun achredu newydd hwn o fudd i landlordiaid ac asiantaethau da a chyfrifol, a byddwn yn argymell yn gryf eu bod i gyd yn ymuno â’r cynllun.
19 Tachwedd 2008











