Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Clodfori Cynllun Aberystwyth

Mae’r Uwchgynllun ar gyfer datblygiad amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Aberystwyth ar gyfer y dyfodol wedi ennill canmoliaeth gan y Sefydliad Tirwedd.
Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2008

Yn ei seremoni wobrwyo flynyddol, yr oedd y Sefydliad, sef y Corff Siartredig Brenhinol ar gyfer penseiri tirwedd Prydain, o’r farn bod y Cynllun ymhlith y tair enghraifft gorau o ddylunio trefol yn y DU. Enillydd y categori oedd cynllun Cyngor Dinas Lerpwl i wella canol y ddinas honno.

Cwblhawyd Uwchgynllun Aberystwyth y llynedd, ac fe’i crëwyd er mwyn darparu dull integredig i’r gwaith o adfywio a datblygu’r dref, ac mae hefyd yn  darparu fframwaith ar gyfer prosiectau buddsoddi allweddol.

Paratowyd yr Uwchgynllun, yn dilyn prosesau ymgynghori cymunedol ac arfarnu cynaliadwyedd sylweddol, gan grŵp llywio a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth, Coleg Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth y GIG a Heddlu Dyfed Powys.

Penodwyd Dylunwyr Trefol LDA Design fel yr ymgynghorwyr arweiniol, ac yr oeddent yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni Peter Brett Associates, Cooke & Arkwright, a’r cwmni ymgynghori PACEC. Ymunodd cwmni ymgynghori CACI â’r tîm yn ddiweddarach er mwyn darparu dadansoddiad manwerthu.

Bellach y mae strwythur cyflawni wedi’i sefydlu i weithio ar brosiectau o fewn yr Uwchgynllun yn gyffredinol.

Dywedodd Leighton Andrews, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Adfywio:

Yr wyf yn falch iawn bod safon yr Uwchgynllun wedi sicrhau’r gydnabyddiaeth broffesiynol hon.

Y mae’n brosiect hynod bwysig i Aberystwyth a bydd yn sicrhau bod gennym weledigaeth glir, integredig a chynaliadwy ar gyfer y dref a bydd yn rhoi cyfeiriad strategol ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.

Mae nifer o gynlluniau ar y gweill ar gyfer buddsoddi yn Aberystwyth ac yn yr ardal o’i hamgylch yn y dyfodol ac maent yn debygol o roi nifer o heriau a chyfleoedd newydd i’r dref. Bydd manteision y cyfleoedd hyn yn effeithio ar yr ardaloedd o amgylch Aberystwyth sef yr aneddiadau llai sy’n rhan o’i dalgylch. 

Bydd yr Uwchgynllun yn llunio ac yn dylanwadu ar weithgareddau adfywio a buddsoddi yn Aberystwyth ac yn ceisio darbwyllo pobl i godi’u dyheadau ar gyfer y dref.

Ychwanegodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Keith Evans:

Y mae’r prosiect hwn yn llawn haeddu’r ganmoliaeth ar gyfer gwaith dychmygus iawn sydd wedi’i baratoi’n ofalus a bydd yn llunio dyfodol Aberystwyth fel canolfan ranbarthol sydd o bwys cenedlaethol. Hoffwn ychwanegu llongyfarchion y Cyngor Sir i bawb a gyfrannodd at y gwaith o baratoi’r prosiect.

25 Tachwedd 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Adfywio a datblygu cymunedol

Tagiau

Tai a chymunedau 25 Tachwedd 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i