O dan y trefniadau newydd a fydd ar waith ar gyfer Rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf o 1 Ionawr 2009 ymlaen, bydd dau sefydliad yn darparu cyngor, hyfforddiant a datblygu a gwasanaethau gwybodaeth i Bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf. Yn flaenorol, roedd rhywfaint o’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan Rwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf.
Yn dilyn ymarfer Caffael Llywodraeth Cynulliad Cymru, bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn darparu cyngor a chymorth i Bartneriaethau ar amrywiaeth o faterion yn ogystal â darparu hyfforddiant a chyrsiau datblygu ar gyfer Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf. Bydd hyn yn cynnwys Cwrs Cynefino i bobl sy’n dechrau gweithio ar y rhaglen ac ar feysydd allweddol eraill er mwyn cynorthwyo’r Partneriaethau i adfywio’u hardaloedd.
Yn ogystal â gwaith Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, bydd EMPOWER yn darparu gwasanaethau gwybodaeth i Bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf. Bydd hyn yn golygu sefydlu gwefan a threfnu cyfarfodydd er mwyn sicrhau bod y Partneriaethau’n gallu dysgu oddi wrth ei gilydd a’u bod yn ymwybodol o’r materion allweddol wrth i’r rhaglen ddatblygu.
Bydd y contractau newydd yn darparu cymorth sydd wedi’i dargedu’n well ynghylch y materion y mae’r Partneriaethau’n ymwneud â hwy.
Dywedodd Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog:
Y syniad gwreiddiol ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf oedd datblygu sgiliau, profiad a hyder pobl leol fel eu bod yn gallu adnabod blaenoriaethau yn eu cymunedau ar ffurf cynllun gweithredu.
Roedd y ddogfen ymgynghori yn datgan yn glir bod angen i Gymunedau yn Gyntaf gael ffocws cliriach ar fentrau adfywio ymarferol ac ar fynd i’r afael â thlodi, yn enwedig tlodi plant a chreu incwm. Yn unol â'r newidiadau i raglen Cymunedau yn Gyntaf ei hun, bydd y trefniadau cymorth cenedlaethol hyn yn helpu i gynorthwyo gyda’r gwaith o roi ffocws newydd ar y rhaglen.
28 Tachwedd 2008











