Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

0808 80 10 800 – Yr alwad gyntaf i fynd i’r afael â cham-drin domestig

Heddiw, (dydd Mercher 17 Rhagfyr) yn ystod ei ymweliad â Chanolfan Ferched Gogledd Cymru yn y Rhyl, dywedodd Brian Gibbons y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol mai’r ffordd orau o helpu a chynghori pobl sy’n cael eu cam-drin yn eu cartrefi yw trwy siopau-un-stop sy’n cynnal ystod o wasanaethau mewn un adeilad.

Dydd Mercher 17 Rhagfyr 2008
0808 80 10 800 – Yr alwad gyntaf i fynd i’r afael â cham-drin domestig

Bydd y Gweinidog yn ymweld â sawl rhan o Gymru dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i ddysgu pobl am Linell Gymorth 24 awr Cymru Gyfan am ddim ar gyfer Cam-drin Domestig - 0808 80 10 800. Bydd yn cwrdd â gweithwyr rheng flaen a dioddefwyr ac yn atgyfnerthu’r neges bod yn rhaid inni beidio â goddef cam-drin domestig yng Nghymru.

Meddai’r Gweinidog:

Mae tystiolaeth yn dangos bod mwy o achosion o gam-drin domestig dros adeg y Nadolig. Mae’n arbennig o bwysig felly bod dioddefwyr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael o’r cychwyn trwy Llinell Gymorth 24 awr Cymru Gyfan am ddim - 0808 80 10 800.

Yn aml, mae dioddefwyr cam-drin domestig yn rhy ofnus i godi llais neu mae gormod o gywilydd arnyn nhw i wneud hynny.  Mae llinellau cymorth neilltuol, fel ein llinell gymorth ni yng Nghymru, yn amhrisiadwy.  I lawer o bobl, mae gwneud yr alwad gyntaf a siarad â dieithryn am eu problemau yn gam cyntaf tuag at dorri i ffwrdd o’r cylch o gam-drin yn y cartref.

Mae’n ddatganiad trist bod y llinell ers dod yn wasanaeth 24 awr ym mis Ionawr 2008 wedi derbyn 1,500 o alwadau bob mis ar gyfartaledd.

Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un.  Mae’n digwydd mewn pob math o berthynas,  beth bynnag yw oed, hil, rhyw, rhywioldeb, anabledd, cyfoeth, ardal neu ffordd o fyw'r unigolion dan sylw.  Fodd bynnag, mae ystadegau’n dangos bod menywod yn fwy tebygol o fod mewn perygl o ddioddef mwy o anafiadau ac i ddioddef ymosodiadau dro ar ôl tro.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd cam-drin domestig o ddifrif.  Yn 2005, aethom ati i gyhoeddi Strategaeth Genedlaethol Cymru Gyfan, sy’n fframwaith pwysig ar gyfer datblygu camau gweithredu lleol i fynd i’r afael â’r broblem gymdeithasol ofnadwy hon ac rydym wrthi bellach yn datblygu Cynllun Gweithredu Strategol newydd er mwyn gwella’r ffordd mae’r Strategaeth yn cael ei gweithredu.

Mae’r strategaeth yn pwysleisio’r angen i asiantaethau weithio ar y cyd er mwyn rhannu gwybodaeth ac arferion da. Mae Siop-Un-Stop ar gyfer Cam-drin Domestig yn gwneud argraff fawr ac mae’n golygu bod holl ddarparwyr gwasanaethau yn y Rhyl yn yr un adeilad gan gynnwys Cymorth i Fenywod Sir Ddinbych, y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig.

Dywedodd y Gweinidog fod saith gwaith yn fwy o fentrau sy’n ymwneud â cham-drin domestig erbyn hyn nag yn 2002 a bod £3.7 miliwn ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon o dan y Cynllun Grant ar gyfer Cam-drin Domestig. Yn ddiweddar, roedd wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf o £1.5 miliwn er mwyn rhoi cefnogaeth i sefydliadau sy’n cynnig cyngor ac yn rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a cham-drin rhywiol, gan gynnwys £300,000 i Ganolfan Ferched Gogledd Cymru ar gyfer prynu’r adeilad yn Stryd y Dŵr.

Ychwanegodd:

Mae’n rhaid inni adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi cael ei wneud.  Nid oes neb yng Nghymru yn haeddu bod mewn sefyllfa lle mae rhywun yn ymosod arno, yn ei gam-drin neu’n ei fychanu. Ers rhy hir o lawer, mae cam-drin domestig wedi cael ei ystyried yn fater preifat lle roedd asiantaethau allanol yn amharod i ymyrryd.  Mae agwedd pobl yn newid, diolch am hynny, a gallwn ni gydnabod bellach bod cam-drin domestig yn drosedd ddifrifol.

17 Rhagfyr 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig

Tagiau

Tai a chymunedau 17 Rhagfyr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i