Ymhlith y sefydliadau sydd wedi elwa ar y cynllun grantiau bach yn y gorffennol, mae Amgueddfa Glowyr De Cymru, a lwyddodd i sicrhau ychydig dros £4,800 ar gyfer cypyrddau arddangos er mwyn cwblhau eu prosiect, a’r gweithdy Dove ym Manwen a sicrhaodd dros £9,000 er mwyn datblygu gardd gymunedol. Dros y tair blynedd diwethaf mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot wedi cael dros 70 o geisiadau am arian.
Meddai’r Dr Brian Gibbons:
Rwy’n falch i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot lwyddo unwaith eto i sicrhau arian o dan y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol er mwyn cynnal cynllun grantiau bach. Bydd y dyfarniad diwethaf gwerth £250,000 yn gwneud y cyfanswm a ddyrannwyd i’r cynllun grantiau bach yn £550,000 a bydd yn sicrhau bod y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol yn parhau i fod yn gefn i’r sector cymunedol a’r sector gwirfoddol.
Yn ardal Castell-nedd Port Talbot yn unig mae 20 o brosiectau cymunedol wedi elwa ar Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth y Cynulliad, a’r grantiau’n werth cyfanswm o fwy na £2.5 miliwn. Mae’r cynllun grantiau bach yn enghraifft o’r modd y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru gydweithio i alluogi cymunedau i’w helpu’u hunain i ddarparu’r hyn y maen nhw wedi dweud bod arnyn nhw ei angen.
18 Rhagfyr 2008











