Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

£5.8 ychwanegol i ymladd tlodi tanwydd yng Nghymru

Darperir £5.8 miliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i ymladd tlodi tanwydd yng Nghymru – dyna a gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru heddiw (Dydd Llun 22 Rhagfyr).
Dydd Llun 22 Rhagfyr 2008

Rhoddir y cyllid newydd i’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref, sy’n cynnig mesurau gwresogi ac insiwleiddio i wneud cartrefi yn gynhesach, iachach ac yn fwy ynni-effeithlon.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson:

Mae’r cyllid newydd hwn yn dangos bod mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn flaenoriaeth i Lywodraeth y Cynulliad. Bydd y cyllid ar gyfer y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref, sy’n rhoi cymorth gwerthfawr i’r rhai mwyaf anghenus, yn cynyddu i bron £23 miliwn eleni.

Y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yw’r rhai sy’n cael yr anhawster mwyaf i dalu eu biliau nwy a thrydan wrth i’r rheini gynyddu. Rydym yn edrych ar y pwerau sydd gan y Cynulliad i helpu’r bobl yma ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, megis y cyflenwyr ynni, i leihau costau ynni cartrefi Cymru.

Mae angen inni ymladd tlodi tanwydd ar dair lefel – trwy wneud cartrefi’n fwy ynni-effeithlon, cynyddu incwm i’r eithaf a sicrhau’r prisiau tanwydd gorau posibl i gartrefi sy’n agored i niwed.

Ychwanegodd y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus,  Andrew Davies:

Mae’n anorfod y bydd y cynnydd ym mhrisiau ynni yn cael effaith negyddol ar dlodi tanwydd yng Nghymru ac yn rhoi pwysau ariannol ar deuluoedd. Bydd yr arian newydd a gyhoeddir gennym heddiw yn helpu i liniaru effeithiau tlodi tanwydd a darparu cymorth i deuluoedd ar draws Cymru.

Mae gwella effeithlonrwydd ynni yn gwneud llawer i helpu’r rhai sy’n cael anhawster cynhesu eu cartrefi. Hyd yma, mae’r fenter hon wedi helpu 93,000 o gartrefi o bob rhan o Gymru trwy wario dros £95 miliwn ar fesurau gwresogi ac insiwleiddio.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref, ffoniwch rhadffôn 0800 316 2815 neu ewch i: www.heeswales.co.uk

22 Rhagfyr 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tlodi tanwydd

Tagiau

Tai a chymunedau 22 Rhagfyr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i