Bydd Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru yn golygu y bydd plant a aned rhwng 1 Medi 2002 a 31 Awst 2004, ac sydd eisoes yn berchen ar gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, yn cael £50 yn rhagor wedi ei dalu i'r cyfrif hwnnw. Bydd plant o deuluoedd sydd ar incwm isel yn gymwys i dderbyn £100. Bydd dros 64,000 o blant yng Nghymru yn derbyn ffurflenni hawlio yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd 52,000 ohonynt yn gallu hawlio £50, a'r 12,000 sy'n weddill yn gymwys i hawlio £100.
Mae'r swm atodol hwn yn un o fentrau allweddol Cymru'n Un i helpu i fynd i'r afael â goblygiadau tlodi plant yng Nghymru. Mae'r fenter yn ceisio gwella llythrennedd ariannol a mynd i'r afael ag allgáu ariannol, yn ogystal ag annog plant i gynilo.
Mae cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn galluogi teuluoedd i ddechrau cynilo ar gyfer dyfodol eu plant drwy roi £250 ar enedigaeth plentyn, a £250 yn rhagor pan fydd y plentyn yn saith mlwydd oed. Mae mwy ar gael i blant o aelwydydd sydd ar incwm isel. Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru yn ychwanegol at hyn.
Mae deunaw o undebau credyd ledled Cymru yn cynnig cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, sy'n golygu bod lle diogel a chyfleus i gynilo'r arian ac ychwanegu ato. Fel yn achos Undeb Credyd Caerdydd yn Ysgol St John Lloyd, mae llawer o undebau credyd wedi sefydlu mannau casglu mewn ysgolion, a gall disgyblion gynilo cyn lleied â £1 yr wythnos.
Meddai Dr Gibbons:
"Bydd taclo tlodi plant ac allgáu ariannol yn rhoi gwell dyfodol i genhedlaeth gyfan o blant. Bydd agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn golygu y bydd plant yn gwella eu gallu i drin arian, yn ogystal â sicrhau bod ganddynt arian yn gefn iddynt wrth iddynt ddod yn oedolion.
"Bydd Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru yn golygu y bydd cymaint â hynny yn fwy yng nghyfrifon pobl ifanc yng Nghymru pan fyddant yn troi'n ddeunaw. Bydd y taliadau ychwanegol ar gyfer plant o deuluoedd sydd ar incwm isel yn rhoi help llaw i'r oedolion ifanc hynny sydd ei angen fwyaf. Ond mae mwy i'r fenter hon na chyfraniad y Llywodraeth yn unig. Gobeithio y bydd y cyfrifon hyn yn annog teuluoedd a ffrindiau i fuddsoddi yn nyfodol plant Cymru.
"Rydw i'n hynod o falch bod cymaint o'n hundebau credyd yn gallu cynnig gwasanaeth hygyrch a chystadleuol i gwsmeriaid sydd angen cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Mae'n arbennig o bwysig i'r rheini sydd ddim yn teimlo’n gyfforddus yn delio â’r banciau mawr."
Bydd y ffurflenni cais ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru yn cael eu dosbarthu drwy'r awdurdodau addysg lleol erbyn diwedd mis Tachwedd. Dylent gael eu dychwelyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru erbyn diwedd mis Rhagfyr er mwyn sicrhau bod y premiwm yn cael ei dalu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Dylai rhieni sy'n dysgu eu plant gartref neu sy'n anfon eu plant i ysgolion annibynnol gysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru.
25 Tachwedd 2009











