y Gweinidog y newyddion yn ystod ei ymweliad ag Undeb Credyd Dragonsavers yn Nhonyrefail a fydd yn cael dros £150,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru tuag at ailwampio eu hadeilad presennol, talu gweddill eu morgais a phrynu offer TG ac offer swyddfa.
Wrth gyhoeddi’r arian, meddai Dr Gibbons:
“Mae’r undebau credyd yn chwarae rôl bwysig dros ben yn ein brwydr yn erbyn allgáu ariannol, brwydr sy’n hynod bwysig yn y trafferthion economaidd presennol. Mae’r undebau credyd yma i’n helpu trwy ddarparu lle diogel i bobl gynilo’r arian y maen nhw wedi’i ennill trwy’u gwaith caled, neu i roi ystyriaeth deg a sensitif i geisiadau am gael benthyg arian.
“Bydd yr arian hwn gan Lywodraeth y Cynulliad yn lleihau cost gorbenion yr undebau credyd, gan roi iddynt ased tymor hir i gadw’r fantolen yn iach. Bydd yn eu gwneud yn fwy sefydlog ac yn cyfrannu at eu cynaliadwyedd tymor hir.
“Yn ein dogfen Cymru’n Un rydym wedi gwneud nifer o ymrwymiadau ynghylch undebau credyd. Rydym am sicrhau bod yna undebau credyd ym mhob rhan o Gymru, rhywbeth a gafodd ei wireddu gennym y llynedd, sicrhau bod eu gwasanaeth ar gael i ddisgyblion ysgol uwchradd a hefyd helpu’r undebau credyd i gynnig mwy o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Mae’r arian yr ydym wedi’i roi i’r undebau credyd yn y gorffennol wedi’i ddefnyddio ganddynt yn effeithiol, gan wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl. Bydd yr £1 miliwn ychwanegol hwn yn adeiladu ar y gwaith hwnnw trwy gryfhau eu seiliau ariannol er mwyn iddynt allu helpu mwy o bobl.”
2 Rhagfyr 2009











