Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Un deg naw o undebau credyd i rannu arian cyfalaf gwerth £1 miliwn

Heddiw (dydd Mercher 2 Rhagfyr), cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol enwau’r 19 o undebau credyd a fydd yn rhannu arian cyfalaf gwerth £1 miliwn. Bydd yr arian yn eu helpu i brynu adeiladau iddynt eu hunain a thalu am waith ailwampio.
Dydd Mercher 02 Rhagfyr 2009
Dr Brian Gibbons

y Gweinidog y newyddion yn ystod ei ymweliad ag Undeb Credyd Dragonsavers yn Nhonyrefail a fydd yn cael dros £150,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru tuag at ailwampio eu hadeilad presennol, talu gweddill eu morgais a phrynu offer TG ac offer swyddfa.

Wrth gyhoeddi’r arian, meddai Dr Gibbons:

“Mae’r undebau credyd yn chwarae rôl bwysig dros ben yn ein brwydr yn erbyn allgáu ariannol, brwydr sy’n hynod bwysig yn y trafferthion economaidd presennol. Mae’r undebau credyd yma i’n helpu trwy ddarparu lle diogel i bobl gynilo’r arian y maen nhw wedi’i ennill trwy’u gwaith caled, neu i roi ystyriaeth deg a sensitif i geisiadau am gael benthyg arian.

“Bydd yr arian hwn gan Lywodraeth y Cynulliad yn lleihau cost gorbenion yr undebau credyd, gan roi iddynt ased tymor hir i gadw’r fantolen yn iach. Bydd yn eu gwneud yn fwy sefydlog ac yn cyfrannu at eu cynaliadwyedd tymor hir.

“Yn ein dogfen Cymru’n Un rydym wedi gwneud nifer o ymrwymiadau ynghylch undebau credyd. Rydym am sicrhau bod yna undebau credyd ym mhob rhan o Gymru, rhywbeth a gafodd ei wireddu gennym y llynedd, sicrhau bod eu gwasanaeth ar gael i ddisgyblion ysgol uwchradd a hefyd helpu’r undebau credyd i gynnig mwy o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Mae’r arian yr ydym wedi’i roi i’r undebau credyd yn y gorffennol wedi’i ddefnyddio ganddynt yn effeithiol, gan wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl. Bydd yr £1 miliwn ychwanegol hwn yn adeiladu ar y gwaith hwnnw trwy gryfhau eu seiliau ariannol er mwyn iddynt allu helpu mwy o bobl.”

2 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Tai a chymunedau 02 Rhagfyr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i