Mae Cefnogi Pobl yn darparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai i helpu pobl sy’n agored i niwed allu byw mor annibynnol â phosibl yn y gymuned. Gallai hyn fod yn eu cartrefi eu hunain neu mewn hosteli, tai gwarchod neu dai â chymorth arbenigol arall. Mae’n cynnig cymorth ymarferol drwy gwnsela ar ddyledion, hyfforddiant ar sgiliau bywyd a chyngor ar dalu biliau a llenwi ffurflenni.
Bydd yr adolygiad yn archwilio polisïau ac adnoddau cyfredol sy’n cyflenwi cymorth sy’n gysylltiedig â thai.
Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i bwrs y wlad, ac amcangyfrifir fod arbediad o £1.68 ym mhob £1 a werir ar wasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai.
Meddai Ms Davies:
“Rydym nawr mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd ac mae’r gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai a ddarperir o dan y fenter Cefnogi Pobl yn bwysicach nag erioed.
“Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i dai ac ni fu’r heriau erioed yn fwy i’r bobl sydd angen tai ac i’r sector cyhoeddus. Mae’n bryd inni edrych ar lwyddiannau’r rhaglen yn fanwl a nodi ardaloedd lle gallwn wneud y gorau o ddarparu gwasanaethau i bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru.
“Fy mwriad yw y bydd yr adolygiad hwn yn annibynnol, yn dryloyw ac yn gynhwysfawr ac y bydd yn ystyried tystiolaeth gan randdeiliaid gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru.
“Gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn ein galluogi ni i roi’r gefnogaeth orau bosibl i’r rheini sydd mewn angen."
Yr amcanion strategol ar gyfer yr adolygiad yw bod gennym wasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai fel a ganlyn:
- Gwasanaethau sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol
- Y fantais fwyaf o’r adnoddau a ddefnyddir
- Gwasanaethau o ansawdd uchel
- Dangos gwerth am arian
2 Rhagfyr 2009











