Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Partneriaethau lleol yn allweddol i ddatblygu cydlyniant cymunedol

Bydd partneriaethau lleol yn arwain wrth ddatblygu cymunedau cytûn, gwydn a chryf sy'n addas i ateb heriau'r 21ain ganrif, meddai Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol wrth grwpiau cymunedol yn Wrecsam heddiw (dydd Iau 3 Rhagfyr).
Dydd Iau 03 Rhagfyr 2009
Dr Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol gya un o'r pobl ifainc yng Nghanolfan galw heibio Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig Abertawe

Wrth lansio 'Cymru'n Cyd-dynnu - Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru' dywedodd y Gweinidog fod y strategaeth yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru'n Un i sicrhau cymdeithas deg a chyfiawn, lle gall pob dinesydd lunio eu bywydau eu hunain a'r cymunedau lle maent yn byw.

"Mae cydlyniant cymunedol yn ymwneud â chyd-dynnu ac mae'r Strategaeth yn anelu at gyflawni ei haddewid.  Mae'n ymwneud â gwahanol adrannau o'r gymuned yn dysgu i barchu ei gilydd, i ddeall safbwyntiau ei gilydd ac i gyd-dynnu hyd yn oed pan fydd gwahaniaethau rhyngddynt.

"Gall y gwahaniaethau hyn fod oherwydd lliw eu croen, eu hoedran, daliadau crefyddol, tarddiad ethnig, iaith neu ddosbarth cymdeithasol.  Mae cydlyniant cymdeithasol yn ymwneud â pharchu'r gwahaniaethau hynny a chanolbwyntio ar yr hyn sydd gennym yn gyffredin - ein gwerthoedd cyffredin.

"Y neges allweddol yn y Strategaeth yw bod angen i gymunedau lleol yn y pen draw benderfynu drostynt eu hunain beth yw eu blaenoriaethau o ran cydlyniant.  Bydd y rhain yn amrywio ledled Cymru ac yn sicr nid fy mwriad i yw dweud beth ddylent fod.

Dywedodd Dr Gibbons, wrth siarad mewn arddangosfa o brosiectau cydlyniant cymunedol ym  Mhrifysgol Glyndŵr, fod Wrecsam wedi bod ar flaen y gad wrth ddatblygu dull lleol o gydlynnu cymunedau ers nifer o flynyddoedd ac roedd yn siwr y byddai'r gwaith a wnaed yn ysbrydoliaeth i gymunedau eraill ledled Cymru.  

Mae'r Strategaeth yn canolbwyntio ar y meysydd polisïau a chyflenwi gwasanaethau ac mae ymchwil wedi dangos bod y rhain yn cael effaith sylweddol ar ba mor dda mae cymunedau'n cyd-dynnu - tai; dysgu;  cyfathrebu; hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol ac atal eithafiaeth dreisgar a chryfhau cydlyniant cymunedol.

Mae'n pwysleisio gwerth partneriaethau lleol, ac yn cynnig i bartneriaid cydlyniant lleol fframwaith a chanllawiau ar gyfer datblygu dull lleol o weithredu, yn darparu enghreifftiau o arferion da cyfredol ac yn cynnig arweiniad ar sut y gall partneriaethau fesur effaith eu gweithgareddau drwy fonitro a gwerthuso. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi cydlyniant ar lefel genedlaethol drwy roi grantiau i fentrau.

Yn dilyn y lansiad ymwelodd y Gweinidog â Phartneriaeth Parc Caia yn Wrecsam i weld dros ei hunan sut mae prosiectau cydlyniant cymunedol yn gweithredu ar yr ystad.

3 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cymru’n Cyd-dynnu - Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru

Tagiau

Tai a chymunedau 03 Rhagfyr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i