Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dros £900,000 i adfywio cymunedau yn y Cymoedd

Mae Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, wedi cyhoeedi y bydd cymunedau ar draws Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin yn cael £936,437 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dydd Iau 18 Tachwedd 2010

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn ystod ymweliad ag Ystad Fairyland yng Nghastell-nedd lle mae dau allan o’r 22 prosiect sydd wedi cael arian wedi’u lleoli.  Cafodd y Dirprwy Weinidog y cyfle i weld lle bydd y ddau brosiect newydd wedi’u lleoli a chafodd gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o’r grwpiau cymunedol fydd yn elwa o’r arian.

Bydd Rhandir Cymunedol Fairyland yn derbyn £63,836.  Bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfleoedd i breswylwyr yr ystad dyfu eu llysiau eu hunain ac yn ogystal, bydd yn eu galluogi i gael adeilad cymunedol, adeilad y mae ei angen arnynt yn fawr, lle y byddant yn gallu cwrdd a gweithio gyda Phartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf.  Bydd prosiect Parth Ieuenctid Fairyland yn derbyn £8,000 a bydd y Parth yn lle i bobl ifanc sy’n byw ar yr ystad dreulio eu hamser sbâr.

Mae pum awdurdod lleol a naw cwm yn rhan o Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin ac mae’r cyllid wedi cael ei ddyrannu ar draws yr ardal fel a ganlyn:

  • £152,000 ar gyfer dau brosiect yng Nghwm Llynfi;   
  • £62,000 ar gyfer dau brosiect yng Nghwm Garw; 
  • £224,926 ar gyfer pum prosiect yng Nghwm Tawe;
  • £148,321 ar gyfer pedwar prosiect yng Nghwm Nedd; 
  • £349,190 ar gyfer naw prosiect yng Nghwm Aman a Chwm Gwendraeth,

Wrth gyhoeddi’r cyllid dywedodd y Gweinidog:  

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r arian hwn ar gyfer y ddau brosiect ar hugain.  Dengys amrywiaeth y prosiectau, nid yn unig yn nhermau lleoliad ond yn nhermau eu natur hefyd, fod gan Gymoedd y Gorllewin lawer o gyfleusterau a chyfleoedd i’w cynnig ac mae’n dangos sut yr ydym yn bwriadu helpu i wneud y mwyaf o’r ardal hefyd.

“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae ardaloedd fel Cymoedd y Gorllewin yn debygol o gael eu taro’n galed iawn felly pleser o’r mwyaf gennyf yw cyhoeddi’r arian hwn ar gyfer y prosiectau er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn ni i fwrw ymlaen â’r gwaith a ddechreuwyd yn 2008.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cymoedd y gorllewin

Tagiau

Tai a chymunedau 18 Tachwedd 2010 Adfywio Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i