Mudiad elusennol yw Cymru Ddiogelach sy’n rheoli nifer o brosiectau diogelwch cymunedol i ddiogelu’r bobl sydd fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae’r prosiectau’n cynnwys Uned Diogelwch Menywod Caerdydd, StreetLife a’r Cynllun Dyn.
Yr oedd y Gweinidog yn un o’r prif siaradwyr yn y digwyddiad heddiw a bu’n siarad am y gwahaniaeth y mae’r prosiectau hyn yn ei wneud i’r bobl sydd eu hangen fwyaf.
“Mae cadw ein cymunedau yn ddiogel a diogelu pobl sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru” dywedodd y Gweinidog. “Rwy’n falch iawn o gael bod yma heddiw er mwyn cydnabod y gwahaniaeth y mae Cymru Ddiogelach yn ei wneud i’n cymunedau.”
“Yr wyf eisiau tynnu sylw yn benodol at y prosiect StreetLife sy’n helpu puteiniaid yng Nghaerdydd drwy gynnig ffyrdd iddynt adael y byd hwnnw ynghyd â rhoi cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth iddynt. Mae’r prosiect yn gweithio gyda rhai o’r menywod yn y ddinas sydd fwyaf agored i niwed ac mae’n enghraifft wych o waith partneriaeth rhwng darparwyr gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, asiantaethau gwirfoddol a Llywodraeth y Cynulliad.
“Dydd Iau fydd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol ar Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod. Hoffwn atgoffa pob un sy’n dioddef oherwydd eu bod yn cael eu cam-drin, gan gynnwys dynion sy’n dioddef cam-drin domestig, i beidio â dioddef yn dawel. Mae cymorth ar gael o nifer o wahanol ffynnonellau gan gynnwys Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru a phrosiectau megis yr Uned Ddiogelwch Merched a Phrosiect Dyn.
“Nid yw trais o unrhyw fath yn erbyn menywod yn dderbyniol ac rwy’n benderfynol o wneud pob dim o fewn fy ngallu i roi diwedd arno.”











