Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Dirprwy Weinidog yn llongyfarch Cymdeithasau Tai am ennill gwobrau

Mae Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog Tai ac Adfywio, wedi llongyfarch dwy Gymdeithas Tai yng Nghymru am ennill gwobr yr un yng Ngwobrau Tai Prydain 2010.
Dydd Gwener 10 Rhagfyr 2010

Yn y seremoni wobrwyo yn Llundain, derbyniodd Melin Homes o Dorfaen wobr am ‘Lwyddiant Neilltuol yn y Maes Tai yng Nghymru’ am ei phrosiect Getting Connected, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Torfaen a Llywodraeth Cynulliad Cymru.  

Mae un rhan y prosiect yn rhoi offer TG a hyfforddiant sylfaenol i ddefnyddio’r rhyngrwyd, e-byst a phecynnau eraill.  Yr ail elfen yw canolfan hyfforddiant TG, fydd yn help i roi sgiliau sylfaenol i bobl leol yn ogystal ag academi dechnoleg, sy’n cynnig hyfforddiant sgiliau proffesiynol ar gyfer yr economiau gwyrdd a digidol.  Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol trwy Raglen Ardal Adfywio Blaenau’r Cymoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru.    

Cymdeithas Tai Cadwyn yng Nghaerdydd oedd yr enillydd arall o Gymru, y tro hwn yn y categori Darparu Effeithlonrwydd ac Arloesi am eu Hasiantaeth Calon Lettings.  

Mae Calon yn asiantaeth osod gymdeithasol lwyddiannus ac arloesol sy’n rheoli llety preifat trwy ddefnyddio gwerthoedd y sector cymdeithasol a rhoi blaenoriaeth i bobl ddigartref  a’r rhai sydd mewn hostelau i’r digartref.  

Mae’r asiantaeth yn rheoli dros 200 eiddo, ac wedi cartrefu dros 230 o bobl, 80% ohonynt yn ddigartref.  Amcangyfrifir bod y cartrefi hyn sy’n cael eu ‘rheoli’n gymdeithasol’ wedi darparu’r hyn sy’n cyfateb ag £20 miliwn o fuddsoddiad grant tai cymdeithasol.  

Dywedodd Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog Tai ac Adfywio:

“Dwi’n llongyfarch Melin Homes a Chymdeithas Tai Cadwyn am eu llwyddiant yng Ngwobrau Tai Prydain.  Fodd bynnag, llwyddiant gwirioneddol y ddau brosiect yw nifer y bobl sydd wedi’u helpu trwy ddod o hyd i gartref iddyn nhw, neu wella’u bywydau.  

“Yn gynharach eleni ês i ymweld â chwpl oedrannus sydd wedi derbyn gliniadur fel rhan o gynllun Getting Connected, ac sy’n dysgu sut i’w ddefnyddio.  Maent bellach yn gallu cysylltu â’u teulu, sy’n bwyd gryn bellter i ffwrdd, trwy e-byst, sydd wedi gostwng eu biliau ffôn, ac yn gwneud eu siopa bwyd ar-lein, sy’n help mawr gan ei bod bellach yn anoddach iddyn nhw fynd o gwmpas, a’u bod yn ei chael yn anodd siopa.  

“Dwi’n falch iawn bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cefnogi’r ddau brosiect hwn.  Maent yn enghreifftiau gwych o’r hyn y gellir ei wneud pan fyddwn yn cydweithio dros bobl Cymru.” 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tai

Tagiau

Tai a chymunedau 10 Rhagfyr 2010 Tai Adfywio Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i