Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Codi ymwybyddiaeth am Linell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru dros gyfnod y Nadolig

Ar adeg o'r flwyddyn sy'n gysylltiedig â heddwch ac ewyllys da, bydd llawer o bobl ledled Cymru yn dioddef camdriniaeth ddomestig.
Dydd Mercher 22 Rhagfyr 2010

Yn anffodus, mae'r ffigyrau yn dangos bod achosion o gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod yn cynyddu dros gyfnod yr ŵyl wrth i densiynau yn y cartref weithiau droi'n dreisgar. Felly mae'n hollbwysig bod y rheini sy'n dioddef yn ymwybodol o'r help sydd ar gael drwy ffonio Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru, sydd ar agor 24 awr y dydd, ar 0808 80 10 800.

Mae Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru ar agor 24 awr y dydd, bob diwrnod o'r flwyddyn. Mae'n darparu cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i fenywod, dynion a phlant sy'n profi camdriniaeth ddomestig. Y llynedd, deliodd y llinell gymorth â chyfanswm o 22,285 o alwadau, sef cynnydd o 176% er 2004. Mae nifer y galwadau y mae staff y llinell yn eu hateb yn dal i gynyddu. Rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd eleni, derbyniwyd 15,386 o alwadau, sef cynnydd o 18% ers yr un cyfnod y llynedd.

Dros y Nadolig, mae nifer y galwadau i'r llinell yn cyrraedd uchafbwynt. Yn ystod mis Rhagfyr y llynedd, deliodd y llinell gymorth â 2,205 o alwadau, sef cyfartaledd o fwy na 71 galwad y dydd gan unigolion oedd yn dioddef camdriniaeth ddomestig.

Mae'r mathau o alwadau y mae staff y llinell yn eu hateb yn amrywiol iawn oherwydd bod cymaint o wahanol fathau o gamdriniaeth ddomestig; gall fod yn emosiynol, seicolegol, corfforol, rhywiol neu ariannol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Dyma pam y mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant, wedi addo parhau i warchod y gyllideb i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Mae'r gyllideb honno yn werth £4.4 miliwn yn 2011/12.

Meddai'r Gweinidog:

"Mae Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr, yn enwedig yn ystod mis Rhagfyr pan mae holl straen y Nadolig yn arwain, yn anffodus, at gynnydd sylweddol yn nifer y rheini sy'n dioddef o gamdriniaeth ddomestig.

"Yn aml, mae gormod o ofn neu gywilydd ar y rheini sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig i sôn am hynny, a gall llinell gymorth benodol fel hon fod yn achubiaeth go iawn. I lawer o bobl, gwneud yr alwad gyntaf honno a siarad â dieithryn am eu problemau yw'r cam cyntaf i dorri'r cylch dieflig o drais yn y cartref.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn deall bod unrhyw fath o gam-drin domestig yn drosedd, a'i fod yn gwbl annerbyniol. Felly, rydw i'n annog unrhyw un sydd mewn perthynas lle maent yn cael eu cam-drin i alw'r llinell gymorth am gyngor a chefnogaeth. Mae staff y llinell yno 24 awr y dydd i wrando. Does angen ichi wneud dim byd ond siarad."

Meddai Paula Hardy, Prif Weithredwraig Cymorth i Fenywod Cymru,

"Hyd yn oed pan fod popeth yn mynd yn iawn, gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i deuluoedd. Yn sydyn, mae pobl sydd ddim yn treulio mwy nag awr neu ddwy yng nghwmni ei gilydd bob dydd yn cael eu taflu ynghyd am ddyddiau bwygilydd.

"Mae cyfnod y Nadolig hefyd fod yn adeg pan mae lefelau straen, y defnydd o alcohol a dyled ar gynnydd. Os ydych chi'n byw mewn teulu lle mae camdriniaeth yn digwydd, weithiau gall y tensiynau yn sgil y materion hyn ffrwydro yn drais a chamdriniaeth."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig

Tagiau

Tai a chymunedau 22 Rhagfyr 2010 Diogelwch cymunedol Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i