Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn diolch i bobl sy’n gwirfoddoli dros y Nadolig

Mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant, wedi diolch i wirfoddolwyr am roi o’u hamser yn ystod cyfnod y Nadolig yn cynorthwyo rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Dydd Mercher 29 Rhagfyr 2010

Mae gwirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddol yn chwarae rôl allweddol, a heb eu cefnogaeth hwy, ni fyddai Llywodraeth y Cynulliad yn gallu cyflawni llawer o’i ymrwymiadau i wella ansawdd bywyd pobl Cymru.

Dywedodd y Gweinidog:

"Mae’r Nadolig yn gyfnod prysur i bob un ohonom. Rwyf wedi synnu felly cymaint o rôl sydd gan wirfoddolwyr yn ein cymuned ac rwy’n eithriadol o hapus am eu cyfraniad ledled Cymru yn ystod y cyfnod Nadoligaidd hwn.

"Mae llawer o elusennau a sefydliadau yn darparu gwasanaethau i helpu ac i gefnogi pobl o bob oed trwy gydol mis Rhagfyr.  Heb gyfraniad y gwirfoddolwyr hyn, ni fyddai sefydliadau pwysig fel hyn yn gallu parhau.

"Mae Dynamic, elusen sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam, yn darparu gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion arbennig.  Trwy gydol mis Rhagfyr, mae Dynamic wedi bod yn trefnu partïon Nadolig bob nos o’r wythnos, gan ddarparu amgylchedd Nadoligaidd lle mae plant sydd ag anghenion arbennig yn gallu dathlu’r Nadolig yn ddiogel.

"Heb wirfoddolwyr, ni fyddai Dynamic yn gallu parhau.  Felly, hoffwn ddiolch i’r unigolion caredig a hael hyn am dreulio eu hamser sbâr yn cynorthwyo eraill.

"Mae gwirfoddoli yn cynnig manteision pwysig i wirfoddolwyr hefyd.  Mae gwirfoddoli mor fanteisiol i’r sawl sy’n gwirfoddoli - o ran sut y gall yr unigolyn elwa o’r profiad: sgiliau newydd, cyfarfod cyfeillion newydd a chael profiadau gwerthfawr - ag y mae i’r bobl a’r sefydliadau sy’n derbyn eu cymorth."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Trydydd Sector

Tagiau

Tai a chymunedau 29 Rhagfyr 2010 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i