Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Tynnu sylw at fanteision ymaelodi ag undeb credyd

Heddiw tynnodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, sylw at fanteision ymuno ag undeb credyd. A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd (dydd Iau 20 Hydref), dywedodd y Gweinidog fod undebau credyd yn ffordd ddiogel a chyfleus o gynilo yn ogystal â chynnig amrywiaeth o wasanaethau ariannol i’w haelodau.
Dydd Iau 20 Hydref 2011

Mae thema Diwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd eleni, Creu Gwell Byd drwy Undebau Credyd, yn pwysleisio cyfraniad economaidd a chymdeithasol pwysig undebau credyd i’w cymunedau ledled y byd.

Ar hyn o bryd, mae 22 o undebau credyd ledled Cymru yn darparu gwasanaethau i fwy na 50,000 o aelodau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu undebau credyd i ddarparu gwasanaethau i bobl sydd wedi’u heithrio’n ariannol oddi wrth y prif ddarparwyr.

Dywedodd Carl Sargeant,

“Mae nifer y bobl sy’n ymaelodi ag undebau credyd yng Nghymru yn parhau i dyfu, ac mae mwy na 50,000 o aelodau a chynilwyr ifanc yn mwynhau manteision perthyn i undeb credyd.

“P’un a yw pobl eisiau hyblygrwydd cynilo’r hyn y gallan nhw pryd y gallan nhw, neu gynilo’n rheolaidd i greu celc wrth gefn, mae manteision lawer yn dod o berthyn i undebau credyd.

“Fel aelod o undeb credyd, rydych chi’n gwybod bod eich arian yn saff ac yn rhan o Gynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol. Mae llawer o bobl hefyd yn hoffi’r syniad o gadw’u harian o fewn eu cymuned er lles eu hardal leol.

“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n bwysicach nag erioed bod gwasanaethau ariannol fforddiadwy ar gael i bobl.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Undebau credyd

Tagiau

Tai a chymunedau 20 Hydref 2011 Bod mewn dyled a chynhwysiant ariannol (undebau credyd) Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i