Yn ôl Mr Lewis, mae penodi’r ddau leol hyn i’r Bwrdd yn hwb ardderchog. Dwedodd;
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros £10 miliwn er mwyn helpu i adfywio Aberystwyth oherwydd rydym yn ei hystyried yn dref strategol sy’n gwasanaethu Ceredigion a’r Canolbarth. Mae’r Bwrdd Partneriaeth sydd eisoes yn gweithredu wedi cymryd camau breision dros y 18 mis diwethaf a bydd denu cynrychiolwyr o ddau o sefydliadau’r sector busnes yn y dref yn cryfhau gwaith y Bwrdd hyd yn oed yn fwy ac yn sicrhau bod potensial Aberystwyth yn cael ei wireddu.”
Yn ogystal â bod yn ddyn busnes lleol, mae Mr Mackenzie-Grieve hefyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar ymgynghoriaeth reoli a bydd hynny’n brofiad da iddo ar gyfer y gwaith sy’n ei wynebu:
“Rwy’n hynod falch fy mod wedi cael y gwahoddiad i fod yn aelod o’r Bwrdd Partneriaeth fel cynrychiolydd y Siambr Fasnach. Er fy mod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r dref rwyf yn ei ystyried yn rhywbeth fydd yn ysgogi llwyddiant ar gyfer tref Aberystwyth yn y blynyddoedd i ddod.”
Cred Gerallt Davies, sy'n ymgynghorydd ariannol a hefyd yn Gadeirydd Clwb Busnes Aberystwyth, fod potensial yn y dref sydd heb ei gyrraedd eto, a bod angen mynd ati i wireddu hynny:
“Mae’r rhaglen adfywio hon ar gyfer tref fel Aberystwyth yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yn awr yw sicrhau bod yr arian yn denu buddsoddiad ychwanegol ac yn rhoi sylfaen gadarn i ni er mwyn datblygu mentrau yn y dyfodol. Yn Aberystwyth, mae gennym ni’r syniadau a’r bobl i fwrw ymlaen â’r gwaith ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu datblygu.”
Wrth groesawu’r ddau aelod newydd, gwnaeth Huw Lewis hefyd ddiolch i Vince Morgans am ei gyfraniad yn dilyn ei benderfyniad i’r roi’r gorau i’w waith ar y Bwrdd oherwydd ymrwymiadau gwaith eraill.











