Ac yntau’n cyfarfod â’r garfan gyntaf o recriwtiaid i ddechrau ar eu hyfforddiant gyda Heddlu Dyfed Powys tanlinellodd y Gweinidog y rôl bwysig y bydd y CSOs yn ei chware yn eu cymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu 500 o CSOs ychwanegol yng Nghymru fel un o’i phum prif ymrwymiad yn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos â Chymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru (ACPOC) ac Awdurdodau Heddlu Cymru (PAW) i sicrhau bod eu rhaglen hyfforddiant yn dwyn ffrwyth. Dechreuodd Gwent a Dyfed Powys hyfforddi eu recriwtiaid cyntaf ym mis Tachwedd a bydd heddluoedd eraill yn dechrau cyn bo hir.
Dywedodd Carl Sargeant,
“Bydd y swyddogion newydd yn ychwanegiad gwerthfawr at Heddlu Dyfed Powys yn ehangach. Byddant yn bresenoldeb gweladwy yn eu cymunedau, gan ymgysylltu â phobl, rhoi sicrwydd a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol cysylltiedig gyda phartneriaid a chyrff cymunedol.
“Mae’r 500 o CSOs ychwanegol yn ehangiad sylweddol ar y niferoedd presennol ac fe wna hyn wahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau. Nid yw CSOs yn disodli swyddogion heddlu gwarantedig; yn hytrach, eu swyddogaeth yw cydategu a chefnogi’r adnoddau heddlu presennol. Bydd y swyddogion newydd hyn yn adeiladu ar y cysylltiadau rhwng yr heddlu a chymunedau, gan gynnig sicrwydd a phresenoldeb amlwg.
”Rwyf yn siŵr y bydd y recriwtiaid yn chware eu rhan yn eu timau Plismona yn y Gymdogaeth wrth fynd i’r afael â llawer o faterion sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol, gan gynnwys cam-drin domestig, mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, sicrwydd cymunedol a gwrando ar bryderon a materion preswylwyr lleol.
“Mae mynd i’r afael â thrais domestig yn un o’m blaenoriaethau uchaf a’r wythnos diwethaf lansiais ail ran ‘Byw Heb Ofn’ - ymgyrch Llywodraeth Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth a herio agweddau at gam-drin domestig yng Nghymru. Rwyf am sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar yr agenda bwysig hon. Bydd y CSOs ychwanegol sy’n dod i mewn yn darparu cymorth pellach yn y maes hwn.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Mr Ian Arundale,
“Rydym yn croesawu’r arian gan Lywodraeth Cymru i recriwtio rhagor o PCSOs. Rydym yn gwybod eisoes eu bod yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i’n preswylwyr yn ein cymunedau. Maent yn gweithio gyda swyddogion heddlu mewn timau penodedig plismona mewn cymdogaethau i sicrhau yr eir i’r afael â phryderon a materion lleol a godir gan breswylwyr, a hynny ar y cyd â’n hasiantaethau partner lle bo’n briodol.”











