Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau

Heddiw, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 2011

Wrth nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Gorddos Cymru (dydd Mawrth 13 Rhagfyr), dywedodd y Gweinidog fod camddefnyddio sylweddau yn parhau i gael effaith andwyol ar unigolion a'u teuluoedd a'u ffrindiau.

Yn 2010, bu farw 152 o bobl oherwydd cyffuriau yng Nghymru. I geisio lleihau'r nifer hon, mae menter ar gyfer atal gorddos wedi'i chyflwyno ledled Cymru.

Mae'r Cynllun Achub Naloxone yn y Cartref yn cynnig setiau Naloxone yn rhad ac am ddim i bob defnyddiwr cyffuriau sydd mewn perygl o gael gorddos. Ym mis Mai, penderfynodd y Gweinidog gyflwyno'r cynllun ledled Cymru yn dilyn gwerthusiad llwyddiannus o'r cynlluniau peilot a gafodd eu gweithredu dros y ddwy flynedd diwethaf mewn sawl ardal yng Nghymru. Hyd yma, mae dros 1,000 o setiau Naloxone wedi'u dosbarthu ledled Cymru, a bu’n rhaid defnyddio 100 ohonynt i fynd i'r afael ag effeithiau gorddos.

Dywedodd Carl Sargeant,

"Nod Diwrnod Ymwybyddiaeth Gorddos Cymru yw codi ymwybyddiaeth o broblem gorddos yn ogystal â rhoi cyfle i deuluoedd alaru am bobl sy’n agos atyn nhw.

"Dw i'n gobeithio y bydd y Cynllun Achub Naloxone yn y Cartref yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad parhaus i leihau nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ledled Cymru. Mae tystiolaeth gref bod nifer y marwolaethau, a'r achosion o orddos nad ydyn nhw wedi arwain at farwolaeth, wedi gostwng mewn ardaloedd lle'r oedd Naloxone yn cael ei ddefnyddio. Penderfynais i gyflwyno'r cynllun ym mhob rhan o Gymru oherwydd hynny."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Camddefnyddio sylweddau Diwrnod Ymwybyddiaeth Gorddos - Rhagfyr 13eg

Tagiau

Tai a chymunedau 13 Rhagfyr 2011 Diogelwch cymunedol Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i