Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn ymweld â’r Rhyl i weld sut y bydd cyllid ar gyfer Gorllewin y Rhyl yn hwyluso ailddatblygiad

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yr wythnos diwethaf y byddai bron i £90 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn rhoi hwb i’r economi a chefnogi blaenoriaethau cyflawni Llywodraeth Cymru.
Dydd Llun 05 Rhagfyr 2011

Roedd Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn y Rhyl heddiw [Dydd Gwener 2 Rhagfyr] i weld sut y mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu i drawsnewid y dref. Bydd £10 miliwn yn cael ei gyfrannu at gynlluniau uchelgeisiol i ddymchwel eiddo mewn rhannau o Stryd Gronant a Stryd yr Acwariwm yng Ngorllewin y Rhyl a thrawsnewid y tir yn fannau agored. Bydd y datblygiad arfaethedig yn rhan allweddol o’r rhaglen hirdymor ar gyfer adfywio’r Rhyl.

Mae rhai adeiladau eisoes wedi’u caffael fel rhan o’r cynlluniau hyn a bwriedir ymgynghori rhagor â’r bobl leol ynghylch y mathau o gyfleusterau y byddent yn hoffi eu cael yn y mannau agored newydd.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych a Grŵp Tai Pennaf, sy’n cynnwys Cymdeithas Dai Clwyd Alyn ac mae’n ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i wneud yn y Rhyl i geisio adfywio’r dref. Cafodd Arfordir Gogledd Cymru, ac yn arbennig trefi’r Rhyl a Bae Colwyn, ei bennu’n Ardal Adfywio yn 2008.

Dywedodd Huw Lewis: 

“Mae’n bleser gennyf ymweld â’r Rhyl heddiw a gweld sut y bydd y cyllid o’r Cynllun Buddsoddi yn ein Seilwaith yn ategu’r gwaith adfywio y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y Rhyl ar hyn o bryd.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i gynnal nifer o swyddi adeiladu dros y ddwy flynedd nesaf a bydd hefyd yn helpu i ddatblygu’r ardal yn sylweddol a darparu tai fforddiadwy ar gyfer teuluoedd. Bydd gan bobl leol rôl ganolog yn y broses wrth iddynt ddweud wrthym beth yr hoffent ei weld yn yr ardal hon.”

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych sy’n gyfrifol am Adfywio: 

“Rydym yn hapus iawn i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Grŵp Tai Pennaf ar y rhaglen uchelgeisiol hon, a fydd yn creu mannau gwyrdd gwerthfawr iawn yng Ngorllewin y Rhyl. Pob tro y mae’r Cyngor yn ymgynghori ynghylch y Rhyl mae’r angen am well tai yn y rhan hon o’r dref yn cael ei bwysleisio. Mae hyn yn tystio i’r ffaith ein bod yn gwrando ar y bobl leol ac yn ymateb i’w hanghenion. 

"Byddwn yn creu mannau gwyrdd a hefyd yn gwella safon eiddo. Bydd y cynllun arfaethedig yn newid yn sylweddol olwg a naws yr ardal a’r gobaith yw y bydd yn rhoi hwb i’r broses o adfywio’r Rhyl.”

Dywedodd Mr Graham Worthington, Prif Weithredwr Grŵp Tai Pennaf:

“Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid ar gyfer y gwaith adfywio allweddol hwn yn y Rhyl sy’n cychwyn rhaglen fuddsoddi hirdymor yng Ngorllewin y Rhyl.

"Mae Grŵp Tai Pennaf wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy o’r radd flaenaf ar gyfer pobl leol, a hefyd i greu cymunedau cynaliadwy a ffyniannus. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â phartneriaid yr awdurdod lleol ac â’r trigolion eu hunain.”


 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tai

Tagiau

Tai a chymunedau 05 Rhagfyr 2011 Tai Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i