Ers mis Ebrill 2009 mae undebau credyd yng Nghymru wedi helpu dros 9,000 o oedolion sydd wedi’u heithrio’n ariannol i gael gafael ar wasanaethau ariannol – gan eu hachub rhag benthycwyr cost uchel.
Mae yna 22 o undebau credyd ym mhob cwr o Gymru, ac amcangyfrifir bod cyfanswm eu hasedau yn £27 miliwn. Maent mewn sefyllfa ddelfrydol, felly, i helpu pobl mewn cymunedau nad ydynt yn gallu cael gafael ar wasanaethau ariannol prif ffrwd.
Dywedodd Carl Sargeant y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo undebau credyd Cymru i feithrin eu gallu er mwyn helpu mwy o bobl.
Dywedodd y Gweinidog,
“Fel sefydliadau egwyddorol sy’n cynnig gwasanaethau ariannol sylfaenol, mae undebau credyd yn chwarae rhan hanfodol o ran helpu Llywodraeth Cymru i gwrdd â’n hymrwymiadau i fynd i’r afael â thlodi ac allgau ariannol lle bynnag y bo’n parhau yn ein cymunedau.
“Er mai llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am reoleiddio cyfraddau credyd, rydym yn cydnabod gyda phryder y cynnydd yn nifer y cwsmeriaid sy’n ymrwymo i gytundebau credyd llog uchel, nid yn unig gyda benthycwyr stepen y drws ond yn fwy aml yn awr gyda chwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog.
“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni lle mae llawer o bobl eisoes yn cael trafferthion cwrdd â’u hymrwymiadau credyd, bydd cynhyrchion o’r fath gyda llog uchel yn siŵr o ychwanegu at y pwysau cynyddol ar bobl sydd â’u hincwm yn gostwng.”
Er bod mwy a mwy o bobl yn ymaelodi ag undebau credyd, dywedodd y Gweinidog bod arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Beaufort Research ar ran Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod mwy o bobl yn ymwybodol o wystlwyr a benthycwyr stepen y drws nag o undebau credyd.
Mae yna waith yn digwydd, gan gynnwys ymgyrch deledu genedlaethol, i hyrwyddo undebau credyd yng Nghymru fel bod pobl yn gwybod bod yna ddewisiadau fforddiadwy eraill ar gael i’w helpu.
Dywedodd,
“Er bod y niferoedd sy’n aelodau o undebau credyd ar gynnydd, mae’n rhaid i ni barhau i gyfleu’r neges bod yna ddewisiadau fforddiadwy eraill, heblaw credyd cost uchel, ar gael. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r Undebau Credyd yn hyn o beth.
“Rydym ni hefyd wedi ymrwymo dros y pedair blynedd nesaf i gynyddu’r niferoedd sy’n aelodau o undebau credyd ar draws y sector cyhoeddus – gan ei gwneud yn haws i bobl gynilo a thalu benthyciadau drwy ddulliau hwylus fel tynnu arian o’u cyflogau. Wrth wneud hynny, gall undebau credyd ddenu mwy o gynilwyr a chynnig benthyciadau fforddiadwy i weithwyr sector cyhoeddus.
“Mae’n rhaid i ni barhau i gefnogi a datblygu opsiynau credyd mwy cyfrifol a fforddiadwy i bob defnyddiwr, ond gan annog mwy o allu a chyfrifoldeb ariannol ar yr un pryd.”











