Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

£5 miliwn i droi tai yn ôl yn gartrefi

Cymerwyd cam ymlaen heddiw o ran troi rhai o’r 22,000 o adeiladau gwag sydd yn y sector preifat yng Nghymru yn gartrefi, ar ôl i Lywodraeth Cymru roi swm o £5 miliwn ar gyfer y gwaith hwnnw.
Dydd Llun 20 Chwefror 2012
Cymerwyd cam ymlaen heddiw o ran troi rhai o’r 22,000 o adeiladau gwag sydd yn y sector preifat yng Nghymru yn gartrefi, ar ôl i Lywodraeth Cymru roi swm o £5 miliwn ar gyfer y gwaith hwnnw.
£5 miliwn i droi tai yn ôl yn gartrefi

Mae ‘Troi Tai’n Gartrefi’, y Gronfa Benthyciadau Ailgylchadwy newydd, yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig benthyciadau i landlordiaid er mwyn iddynt fedru adnewyddu adeiladau preswyl gwag sydd wedi mynd â’u pen iddynt, a’u troi’n gartrefi i’w gwerthu neu eu rhoi ar rent.

Byddai landlordiaid yn ad-dalu’r benthyciad di-log erbyn diwedd cyfnod penodedig, a byddai’r arian yn cael ei ailgylchu er mwyn rhoi benthyciadau pellach fel y bo modd mynd ati i ddefnyddio mwy o adeiladu gwag unwaith eto a’u troi’n gartrefi.

Cyhoeddwyd y cynllun gan Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, ar ôl iddo ymweld ag adeilad yn Rhisga sy’n cael ei adnewyddu ar hyn o bryd drwy fenter i fynd i’r afael ag adeiladau gwag.

“Mae cartrefi gwag yn adnoddau sy’n cael eu gwastraffu, yn arbennig felly ar adeg pan nad yw’r cyflenwad o dai sydd ar gael yn ddigon i ateb y galw ,” meddai Huw Lewis.

“Gall adeiladau sy’n cael eu gadael yn wag am gyfnodau hir ddifetha’n cymunedau wrth i’r adeiladau hynny fynd â’u pen iddynt neu wrth iddynt ddenu fandaliaid a phobl sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol. 

“Bydd y gronfa hon ar gael ledled Cymru, gan helpu i adfer cyflwr adeiladau preswyl fel y bo modd eu defnyddio unwaith eto a’u troi’n gartrefi gwerthfawr y mae dirfawr eu hangen.

“Drwy gyflwyno’r cynllun hwn, rydym yn gwireddu un o’r ymrwymiadau allweddol a wnaed yn ein Rhaglen Lywodraethu mewn perthynas â thai, sef cyflwyno menter newydd i fynd i’r afael â chartrefi gwag. Bydd y cynllun yn fodd hefyd i gefnogi swyddi yn y sector cynnal a chadw cartrefi ac yn y sector adeiladu.”

Bydd ‘Troi Tai’n Gartrefi’, y Gronfa Benthyciadau Ailgylchadwy, yn agor ym mis Ebrill pan fydd landlordiaid a pherchenogion adeiladau gwag yn gallu gwneud cais am fenthyciadau drwy eu hawdurdod lleol. 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tai gwag

Tagiau

Tai a chymunedau 20 Chwefror 2012 Tai Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i