Bydd yr adolygiad yn ystyried polisi presennol Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig yr Ardaloedd Adfywio, a hefyd yn pennu sut y dylai gwaith adfywio yng Nghymru ddatblygu yn y dyfodol.
Nid yw manylion yr adolygiad wedi’u cymeradwyo hyd yma ond mae’r Gweinidog wedi cadarnhau y bydd adfywio canol trefi a threfi glan y môr yn agweddau allweddol ar y gwaith.
Dywedodd y Gweinidog y byddai’n pennu ei flaenoriaethau ar gyfer adfywio yn y dyfodol yn dilyn yr adolygiad ar ddechrau 2013.
Dywedodd y byddai gwaith cydgysylltu ar draws adrannau’r Llywodraeth, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn parhau’n gwbl allweddol i lwyddiant y polisi adfywio.
Canmolodd y Gweinidog hefyd y rhaglen bresennol o Ardaloedd Adfywio a chadarnhaodd y byddai’r holl ymrwymiadau presennol o dan y rhaglen yn cael eu hanrhydeddu.
Dywedodd:
“Rydym oll wedi ymrwymo i sicrhau bod gweithgareddau adfywio yn cael eu cydgysylltu ar draws ein holl bortffolios. Bydd integreiddio sy’n fwy trylwyr ac yn fwy eang ei gwmpas yn helpu i sicrhau gwell gwerth a gwell canlyniadau.
“Mae adolygu ein sefyllfa bresennol a’r hyn a wnawn yn gwbl allweddol er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer y dyfodol. Wrth i gyllidebau dynhau mae angen i ni ddefnyddio hyd yn oed mwy o’n dychymyg a buddsoddi’n fwy gofalus.
“Mae angen i mi bennu’r ffordd orau o fuddsoddi fy nghyllideb fel ei bod yn cyflawni’r effaith fwyaf, ac yn ychwanegu at fuddsoddiad arall ar draws y Llywodraeth a thu hwnt. Bydd cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol yn rhan allweddol o’r darlun hwn.
“Ymysg y materion yr ydym yn canolbwyntio arnynt ar hyn o bryd y mae’r cysylltiadau rhwng fy mhortffolio a’r Ardaloedd Menter newydd a gwaith ar Ddinas-Ranbarthau.
“Mae’n rhaid cydnabod pwysigrwydd adfywio o ystyried pa mor heriol yw’r sefyllfa economaidd sydd ohoni. Rwy’n falch iawn o’r gwahaniaeth yr ydym yn ei gyflawni. Hoffwn sicrhau y gallwn barhau i gyflawni’r gwahaniaeth hwnnw.
“Byddaf yn disgwyl i’r gymuned adfywio ein cynorthwyo â’r adolygiad hwn. Rwy eisoes yn gallu manteisio ar arbenigedd Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru a’r Panel Adfywio Cenedlaethol. Bydd proses ymgynghori yn mynd rhagddi ar y cyd â’r rhanddeiliaid hyn, a rhanddeiliaid eraill, ynghylch y cynigion ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Byddaf hefyd yn edrych ar yr arferion gorau sydd ar waith yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd."
Mae rhaglenni saith Ardal Adfywio Cymru yn gweithredu yn y Bari, Abertawe, Blaenau’r Cymoedd, Môn a Menai, Arfordir y Gogledd, Cymoedd y Gorllewin ac Aberystwyth.
Mae’r rhaglenni eisoes yn ariannu gwaith ar gyfer adfywio canol trefi drwy well cynlluniau strydlun a grantiau ar gyfer gwella canol trefi, helpu i gefnogi busnesau’r stryd fawr, economïau lleol a helpu i ddiogelu swyddi.











