Ym mis Ebrill 2011, cafodd y Cydgysylltydd Atal Masnachu Pobl cyntaf yn y Deyrnas Unedig ei benodi gan Lywodraeth Cymru. Prif nod y swyddog yw trefnu’r gefnogaeth orau bosibl i ddioddefwyr a gwneud Cymru’n lle peryglus i’r rheini sy’n Masnachu Pobl.
Dywedodd Carl Sargeant y byddai’n dal ati i annog Llywodraeth Prydain a’r llywodraethau datganoledig eraill i ddilyn arweiniad Cymru yn y maes ac i ofalu bod ganddynt y trefniadau i daclo’r drosedd hon.
Dywedodd y Gweinidog bod Llywodraeth Cymru wedi llunio hyfforddiant arbennig ar gyfer Prif Swyddogion yr Heddlu i ddelio â’r Fasnach mewn Pobl. Bydd yn cychwyn yn y tri mis nesaf gyda holl Heddluoedd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd rhan ynddo. Dywedodd hefyd fod systemau wedi’u creu i wneud yn siwr bod ymateb cymesur sy’n defnyddio’r wybodaeth orau yn barod i rwystro unrhyw un sydd am fanteisio ar y Gemau Olympaidd i fasnachu pobl yng Nghymru.
Dywedodd Carl Sargeant;
"Gyda chydweithrediad Asiantaethau Ymchwilio Llundain a’r DU a Chanolfan y DU y Fasnach mewn Pobl, rydym wedi ymchwilio’n drylwyr i’r bygythiad yng Nghymru yn ystod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012, ac rydym wedi paratoi asesiad trylwyr o’r risg.
"I ategu hyn, mae cyfarwyddiadau clir wedi’u rhoi i’n partneriaid strategol ar draws Cymru i adnabod y rheini sy’n cael eu masnachu, ac i ymateb iddynt."
Dywedodd y Gweinidog bod mwy o gydweithredu’n digwydd i dargedu’r mannau lle mae pobl sy’n cael eu masnachu yn cyrraedd y wlad. Meddai;
"Mae’r Cydgysylltydd wedi gweithio’n glos â’r UKBA ac Uned Eithafiaeth a Gwrth-Derfysgaeth Cymru (WECTU) i wneud y gorau o’r wybodaeth sydd gennym am y Fasnach mewn Pobl yn ogystal ag argymell gweithredu agored a chudd i gryfhau’r gwaith yn ein porthladdoedd, sydd eisoes yn drylwyr.
"Mae Cymru wedi ennill ei phlwyf o ran mynd i’r afael â’r broblem gudd a chymhleth hon. Mae’n bwysig peidio â cholli’r momentwm hwn ond gwneud y gorau o’r addysg a’r hyfforddiant y mae’r Cydgysylltydd Atal Masnachu Pobl wedi’u darparu. Drwy hynny, gallwn wneud yn siwr nad oes unrhyw fasnachu mewn pobl yn cael ei oddef yng Nghymru a’n bod yn rhoi’r help gorau posibl i’r dioddefwyr.”











