Mae’r Pecyn Cymorth ‘i2i Can-do’ yn darparu canllawiau ar gyfer y sector cyhoeddus a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch cynnwys recriwtio wedi’i dargedu a hyfforddiant o fewn amodau contractau tai pan fyddant yn penodi cwmnïau i wneud gwaith ar eu rhan.
Cafodd yr adroddiad ar dair blynedd gyntaf y prosiect ei lansio gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, heddiw yng Nghynhadledd TAI y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) yng Nghaerdydd.
Mae’r adroddiad yn nodi bod 2,581 o gyfleoedd swyddi a hyfforddiant wedi’u creu gan y 26 o sefydliadau sydd wedi mabwysiadu’r model. Cafodd bron i 1,400 o’r cyfleoedd hyn eu creu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Golyga hyn fod 15 o gyfleoedd yn cael eu creu bob wythnos ar gyfartaledd, a llawer ohonynt o fewn cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae ail rifyn o’r canllaw, ‘the i2i Can-Do Toolkit 2 – SME friendly procurement’, sy’n cynorthwyo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn bodloni’r meini prawf ynghylch caffael neu fod y gadwyn gyflenwi yn cynnwys busnesau bach a chanolig, wedi’i ddefnyddio am gyfnod prawf gan Tai Ceredigion yn ystod y flwyddyn. Canlyniad hyn yw fod y gymdeithas tai wedi rhoi contractau’n uniongyrchol i chwech o fusnesau bach a chanolig lleol, yn hytrach na’u bod wedi’u his-gontractio i gwmnïau mawr a leolir yn Lloegr.
Dywedodd y Gweinidog, wrth siarad yn y gynhadledd:
"Mae’r ffaith bod 2,581 o gyfleoedd swyddi a hyfforddiant wedi’u creu dros dair blynedd yn gryn gyflawniad. Os byddai ffatri newydd yn agor ac yn addo creu cymaint â hynny o swyddi dros y tair blynedd nesaf byddai ar dudalennau blaen ein papurau newydd.
"Rwy’n falch iawn o’r hyn yr ydym ni a’n partneriaid wedi’i gyflawni o fewn y sector tai â chymorth y ‘Can Do Toolkit’. Mae’n enghraifft berffaith o’r hyn y gallwn ei wneud er mwyn sicrhau bod y manteision mwyaf posibl yn deillio o gontractau. Mae’n sicrhau bod oedolion a phobl ifanc ddi-waith a lleol yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant a phrofiad gwaith, sy’n gwbl allweddol ar gyfer gallu cystadlu yn y farchnad swyddi heddiw."
"Hawdd yw credu y bydd y llywodraeth yn gwneud llai o fewn cyllidebau mwy cyfyngedig, er bod angen gwneud llawer mwy. Mae i2i, sy’n cynorthwyo sefydliadau i sicrhau bod caffael yn cyflawni ar gyfer cymunedau lleol, yn dangos sut y gall cyllidebau llai arwain at fwy o waith am bris llai. Mae’n fodel arbennig y byddai modd ei ddefnyddio o fewn portffolios yr holl Weinidogion."
Dywedodd Elin Brock-Jones, sy’n rheoli’r prosiect i2i: "Mae’r cyflawniadau hyn yn destun cryn falchder wrth i ni edrych yn ôl ar 2011, sef adeg o doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Eto i gyd, mae lle i wella o hyd.
"Mae’r gyllideb ar gyfer tai yn fychan iawn o’i chymharu â’r cyllidebau mawr ar gyfer Iechyd ac Addysg, ond mae Tai wedi defnyddio prosesau caffael ar gyfer creu 2,581 o gyfleoedd swyddi a hyfforddiant dros y tair blynedd diwethaf, sy’n rhywbeth nad yw’r portffolios eraill wedi’i wneud. Mae’r dystiolaeth yn glir o’r sector tai; mae sicrhau cyfleoedd swyddi a hyfforddiant drwy gaffael cymdeithasol yn fwy na damcaniaeth bosibl. Mae’n amser i eraill weithredu yn yr un modd."
Wrth i’r Gweinidog annerch y gynhadledd amlinellodd sut y mae Llywodraeth Cymru wrthi’n rhoi rhagor o flaenoriaeth i dai, ac amlinellodd yr heriau y bydd yn eu hwynebu yn y dyfodol. Dywedodd:
"Mae’r Llywodraeth hon yn gwbl ymrwymedig i degwch a chyfiawnder cymdeithasol, a hefyd i les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae buddsoddi mewn tai yn cyfrannu at y cyfan o’r rhain, a dyma pam rydym wedi ymrwymo’n gyhoeddus i roi rhagor o flaenoriaeth i dai yn ystod y blynyddoedd nesaf.
"Mae angen gwneud llawer iawn mwy i sicrhau rhagor o gartrefi, cartrefi gwell, a gwell gwasanaethau ond rydym yn cyflawni, er gwaethaf yr holl heriau a’r diffyg cyllid. Er enghraifft, rydw i eisoes wedi sefydlu cyn pryd menter newydd genedlaethol ynghylch cartrefi gwag, gan sicrhau buddsoddiad ychwanegol o £5 miliwn ar gyfer y sector a thros £18 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol. Rhaid crybwyll hefyd y gwaith rhagorol y mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ei wneud er mwyn adeiladu rhagor o gartrefi gydag un ai llai o grant neu ddim grant o gwbl, a hefyd gwaith yr awdurdodau lleol wrth wynebu’r cynnydd yn nifer y bobl ddigartref yn sgil diwygiadau i’r system les.
"Yn ddiamau mae’n hollbwysig sicrhau’r atebion cywir i Gymru. Nid deddfwriaeth yw’r unig ateb. Bydd y Papur Gwyn y byddaf yn ei gyhoeddi yn y gwanwyn yn amlinellu ein cynigion ar gyfer mesurau deddfwriaethol newydd i’w cynnwys yn y Bil Tai a hefyd yn disgrifio’r gwahanol fesurau amrywiol sydd wedi’u targedu ac nad ydynt o natur ddeddfwriaethol a fydd yn helpu i gyflawni’r newidiadau angenrheidiol. "











