Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Hwb o £5.7 miliwn i Gymunedau Cymru

Bydd cymunedau trwy Gymru yn elwa ar £5.7 miliwn o gyllid o Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth Cymru, meddai Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Dydd Gwener 23 Mawrth 2012

Caiff y £5,761,997.39 o gyllid ei rannu rhwng 29 o brosiectau trwy Gymru.  Bydd yn mynd i fudiadau cymunedol a gwirfoddol fel cymorth i greu cyfleusterau a gwasanaethau newydd.

Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus wedi cyflwyno prosiectau datblygedig iawn sydd wedi cael cefnogaeth y gymuned leol ac a fydd yn sicrhau manteision sylweddol o ran adfywio.

Meddai Carl Sargeant:

"Nid gwella adeiladau yn unig yw diben y grantiau hyn.  Mae clybiau a chanolfannau lleol yn gallu bod yn ganolbwynt i’r gymuned lle gall pobl, boed hen neu ifanc, ddod at ei gilydd a mwynhau gweithgareddau cymdeithasol.

"Boed y swm yn fawr neu’n fach, mae cyllid y Rhaglen yn cael effaith fuddiol ar gymunedau Cymru ac ar fywyd bod dydd pobl leol.  Erbyn hyn, mae llawer o’r prosiectau a oedd yn deillio o grantiau cynharach wedi dwyn ffrwyth, ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau yn eu hardaloedd.

"Rwy’n falch o weld cynifer o grwpiau a gwirfoddolwyr lleol yn mynd i’r afael â materion eu hunain, ac yn gwneud cais am grantiau i wneud eu canolfan yn lle gwell i’r holl gymuned ei fwynhau."

Lansiwyd y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol yn 2002, a hyd yn hyn mae wedi ariannu 831 o brosiectau sydd yn werth dros £92.3 o filiynau.  Bydd y cylch diweddaraf o geisiadau am arian yn cyllido 29 o brosiectau sydd yn werth dros £5,761,997.39 dros gyfnod o ddwy flwyddyn ariannol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol

Tagiau

Tai a chymunedau 23 Mawrth 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i