Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Hwb o £800,000 i ganol tref Aberystwyth

Cyhoeddodd Huw Lewis, y Gweinidog Adfywio, fod gwaith i weddnewid adeiladau a rhoi hwb i fusnesau yng nghanol tref Aberystwyth wedi cymryd cam ymlaen, diolch i gyllid gwerth £800,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Dydd Mawrth 27 Mawrth 2012

Cyllid ar gyfer Ardaloedd Adfywio yw’r cyllid hwn ac mae wedi cael ei roi i Gyngor Sir Ceredigion, a fydd yn ei ddefnyddio i ehangu ei raglen Grant Gwella Trefi, sy’n rhoi cymorth ar gyfer gwaith adnewyddu ar adeiladau yng nghanol y dref.

Mae’r cyllid yn cael ei roi fel y bo modd parhau â’r rhaglen hon, sydd wedi bod yn cael ei rheoli gan Gyngor Sir Ceredigion ers dwy flynedd.  Mae’r rhaglen Grant Gwella Trefi yn cyd-fynd â nod yr Ardal Adfywio o ddatblygu canol tref deniadol a ffyniannus yn Aberystwyth.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cael ei wneud ddiwrnod cyn dadl yn y Cyfarfod Llawn am adroddiad Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad ar adfywio canol trefi, lle bydd y Gweinidog yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer datblygu canol trefi.

Dywedodd Huw Lewis:

“Mae canol tref ffyniannus a bywiog yn bwysig iawn i Aberystwyth, felly dw i’n falch iawn o gael cyhoeddi’r cyllid hwn, er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn gwneud o gorau o’r hyn sydd gan y dref i’w gynnig.

“Bydd y gwaith adnewyddu yn hwb hefyd i gontractwyr lleol, ac unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd adeiladau manwerthu o ansawdd uchel yn cynnig swyddi i’r trigolion lleol ac yn gwella’r cyfleusterau manwerthu sydd ar gael mewn cymunedau lleol.  Bydd gwella canol y dref o help hefyd i ddenu twristiaid ac i roi hwb i economi Aberystwyth.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Tai a chymunedau 27 Mawrth 2012 Adfywio Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i