Roedd y Gweinidog yn trafod adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar adfywio canol trefi.
Dywedodd,
“Canol trefi a dinasoedd yw curiad calon ein cymunedau; maent yn chwarae rôl hollbwysig ym mywyd cymunedol Cymru, ac maen nhw’n datblygu’n barhaus. Mae sawl ffactor yn dylanwadu arnyn nhw, siopa ar y rhyngrwyd er enghraifft, y dirywiad economaidd, a chan ei bod yn gymaint haws teithio erbyn hyn, cystadleuaeth o drefi cyfagos. Dim ond y stryd fawr fwyaf creadigol ac arloesol, yr un sy’n barod i addasu ac sy’n deall anghenion cwsmeriaid, wnaiff lwyddo yn y farchnad fyd-eang hon.
“Mae’n amlwg bod angen i’n trefi ni ddilyn trywydd newydd. Allwn ni ddim dibynnu ar siopau yn unig i’w cynnal bellach. Wrth i drefi newid, mae angen inni ystyried sut i grynhoi siopau mewn ardaloedd mwy penodol, a rhoi tai a gwasanaethau lleol yng nghanol ein trefi. Mae hyn yn gyfle i ystyried rôl cyfleusterau hamdden ac economi fin nos fel rhan o atyniad tref i drigolion ac ymwelwyr.”
Cynhaliwyd y drafodaeth ddiwrnod ar ôl i’r Gweinidog gyhoeddi cyllid o £800,000 ar gyfer cynllun Grant Gwella Trefi yn Aberystwyth a fydd yn helpu i adnewyddu eiddo yng nghanol y dref fel rhan o Raglen Ardal Adfywio’r dref. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig cynllun grant tebyg yn Ardal Adfywio Môn a Menai. Fe weithredwyd mewn ffordd wahanol mewn trefi eraill yn ôl eu hanghenion.
Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynllun manwerthu mawr ym Margoed, gan gynnwys archfarchnad newydd a siopau eraill a fydd yn datblygu canol y dref. Mae gorsaf fysus newydd wedi’i chwblhau, a gwaith stryd wedi’i ddechrau i wella’r brif ardal siopa ar ei hyd. Mae’r dref yn elwa ar gyllid Ewropeaidd a chymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae cymorth y Llywodraeth wedi’i gwneud yn bosibl hefyd agor caffi a llyfrgell newydd yng Nghapel Hanbury, gan roi bywyd newydd i’r Adeilad Rhestredig yng nghanol y dref.
Dim ond un enghraifft yw Bargoed o drefi sydd wedi cael cymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru drwy’r rhaglen Adfywio; o Gaergybi, Caernarfon a’r Rhyl i Ferthyr, Rhydaman, Maesteg a’r Barri.
Mae cyllid Ewropeaidd ac arian y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir hefyd yn cefnogi prosiectau i adfywio canol trefi fel Llanelli, Pontypridd a Phont-y-pŵl. Mae cymorth ar gael hefyd mewn nifer o feysydd, drwy raglenni tai, trafnidiaeth, twristiaeth a threftadaeth.
Mae 24 o brosiectau yng Nghymru i adfywio canol trefi yn gweithredu mewn partneriaeth ar draws adrannau’r llywodraeth, gydag awdurdodau lleol a’r sector preifat, ac mae tua £270 miliwn yn cael ei fuddsoddi.
Ychwanegodd y Gweinidog,
“Fe allwn ni wneud cymaint mwy dros ein trefi drwy gydweithio. Dw i am ofalu ein bod ni’n rhoi’r arweiniad iawn i’n partneriaid ac yn cydgysylltu yn y ffordd orau. Dw i am i’n buddsoddiad mewn gwaith adfywio gael yr effaith fwyaf bosibl yn y blynyddoedd i ddod. Mae trefi bywiog ac amrywiol yn hanfodol. Gyda’n gilydd fe allwn ni eu helpu i ffynnu.”











