Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Troi Tai’n gartrefi, cronfa gwerth £5 miliwn

Gallai oddeutu 22,000 o dai gwag yn y sector preifat yng Nghymru gael eu gweddnewid i fod yn dai newydd yn fuan. Daw hyn yn sgil cynllun gwerth £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cychwyn heddiw sef Troi Tai’n Gartrefi: y Gronfa Benthyciadau Ailgylchadwy.
Dydd Llun 02 Ebrill 2012

Mae Troi Tai’n Gartrefi: y Gronfa Benthyciadau Ailgylchadwy yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig benthyciadau di-log i landlordiaid er mwyn iddynt fedru adnewyddu tai preswyl gwag sydd wedi dirywio fel bod y tai mewn cyflwr i’w gwerthu neu’u rhentu.

Bydd y benthyciadau yn cael eu had-dalu dros gyfnod penodol, a bydd modd defnyddio’r arian hwnnw ar gyfer benthyciadau ychwanegol er mwyn troi mwy o dai gwag yn gartrefi.

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth,

“Ar hyn o bryd, un o’r materion mwyaf sy’n wynebu’r sector tai yw’r prinder tai i’w gwerthu a’u rhentu. Nid yn unig y mae tai gwag yn gwastraffu adnoddau, yn enwedig ar adeg pan fo galw mawr am dai ond yn ogystal gall tai gwag ddenu fandaliaid ac annog ymddygiad gwrthgymdeithasol a gall hynny niweidio delwedd ein cymunedau.

“Bydd y gronfa hon yn gweithredu ledled Cymru. Bydd y gronfa o gymorth i ddiwallu’r angen am dai preswyl sydd mewn cyflwr da fel bod modd iddynt gael eu defnyddio fel cartrefi – mae yna alw mawr am y mathau hyn o dai. Hefyd, bydd y cynllun yn diwallu’r angen am waith yn y diwydiant adeiladu. Mae’r gronfa yn un o’r ymrwymiadau allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu ac rwyf yn gobeithio y bydd yn cyfrannu at wella ein cymunedau ac yn rhoi mwy o gyfle i deuluoedd ddod o hyd i gartref addas.”

Gall landlordiaid a pherchnogion tai gwag wneud cais am y benthyciadau drwy’u hawdurdod lleol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y cynllun Troi Tai'n Gartrefi

Tagiau

Tai a chymunedau 02 Ebrill 2012 Programme for Government - Homes Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i