Mae’r cynllun grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig yn darparu refeniw a chyllid cyfalaf i sefydliadau er mwyn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cymorth ar gyfer unrhyw ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i helpu dioddefwyr cam-drin domestig i sicrhau eu bod yn cael cymorth ac yn gallu byw’n ddiogel yn eu cymunedau lleol. Mae nifer o sefydliadau ar draws Cymru sy’n darparu gwasanaeth gwerthfawr i ddioddefwyr cam-drin domestig.
"Mae’r sefydliadau hyn yn gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr bod dioddefwyr yn ddiogel ac yn eu helpu i ailadeiladu eu bywydau. Rwy’n falch i allu sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau yn ystod 2012-13."
Mae’r cynllun grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig yn darparu refeniw a chyllid cyfalaf i sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau ar lefel genedlaethol neu leol ac sy’n berthnasol i Gymru gyfan. Mae’r sefydliadau hyn i gyd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o gyflenwi’r strategaeth integredig ar gyfer mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, "Yr Hawl i fod yn Ddiogel", a’r strategaeth Cam-drin Domestig.











