Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

£2 miliwn i helpu pobl hŷn allan o’r ysbyty

Heddiw, cyhoeddodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, fod cynllun i wneud mân addasiadau, ond rhai hanfodol, i gartrefi pobl hŷn i’w hatal rhag gorfod mynd i’r ysbyty neu eu galluogi i adael yr ysbyty yn gynt wedi cael dros £2 filiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dydd Iau 19 Ebrill 2012

Mae’r Rhaglen Addasiadau Brys yn caniatáu i offer megis rampiau, rheiliau llaw, larymau diogelwch a systemau mynediad gael eu gosod yng nghartrefi pobl yn gyflym fel na fydd oedi cyn eu rhyddhau o’r ysbyty ac er mwyn osgoi gorfod mynd i’r ysbyty yn y dyfodol. Caiff y cynllun ei weinyddu a’i fonitro gan Gofal a Thrwsio Cymru a’i gyflenwi gan asiantaethau Gofal a Thrwsio.

Dywedodd y Gweinidog,

“Mae’r rhaglen hon yn darparu gwasanaeth gwerthfawr sy’n galluogi pobl hŷn ledled Cymru i ddychwelyd i amgylchoedd cyfarwydd yn gynt a pharhau i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyhyd ag sy’n bosibl. Gall gwneud addasiadau syml i gartref unigolyn, megis ychwanegu rheiliau gafael neu lefelu llwybrau, gael effaith enfawr ar ansawdd eu bywyd.

“Heb y cyllid hwn, mae’n anochel y bydd pobl hŷn yn treulio cyfnod hirach yn yr ysbyty neu hyd yn oed yn gorfod mynd i gartref gofal. Byddai hyn nid yn unig yn ddrud iawn i’r trethdalwr, ond yn bwysicach byddai’n cael effaith niweidiol ar eu lles emosiynol. Mae Gofal a Thrwsio yn darparu mân addasiadau, ond rhai sydd weithiau’n hanfodol er mwyn cyflawni hynny. Drwy’r buddsoddiad hwn gall mwy o bobl gael eu cefnogi i aros gartref, lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn dymuno bod.”

Mae’r cyllid wedi cael ei gadw ar yr un lefel â’r llynedd, er gwaethaf toriadau i’r gyllideb dai gyffredinol, er mwyn lleihau’r effaith ar wasanaethau rheng flaen sy’n effeithio fwyaf ar ansawdd bywydau pobl hŷn. Mae’r buddsoddiad hwn yn arwain at arbedion mawr mewn meysydd arall y gyllideb megis y GIG a’r Gwasanaethau Cymdeithasol drwy atal pobl rhag mynd i’r ysbyty o ganlyniad i ddamweiniau yn y cartref neu salwch oherwydd amodau byw anaddas.

Am bob £1 a gaiff ei gwario ar y Rhaglen Addasiadau Brys, mae £7.50 yn cael ei arbed o gyllidebau’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol drwy atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty neu eu galluogi i adael yn gynt - o ganlyniad i hyn, mae’r cyllid wedi cael ei gadw ar yr un lefel â’r llynedd, er gwaethaf toriadau i’r gyllideb dai gyffredinol. Cafodd bron i 14,000 o dasgau eu cwblhau o dan y Rhaglen Addasiadau Brys yn 2010-2011. Llwyddodd dros 9,500 ohonynt i atal rhywun rhag gorfod mynd i’r ysbyty a llwyddodd 4,500 ohonynt i alluogi unigolion i adael yr ysbyty. Ar gyfartaledd, cafodd y tasgau eu cwblhau cyn pen 7 diwrnod gwaith.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Tai a chymunedau 19 Ebrill 2012 Tai Programme for Government - Homes Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i