Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Tai yn ‘hanfodol’ i wireddu ein nod, medd Huw Lewis wrth lansio’r Papur Gwyn

Mae sicrhau bod gan bawb gartref sydd mewn cyflwr da ac sy’n fforddiadwy yn un o hanfodion cymdeithas deg a chefnogol. Dyma neges y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, wrth iddo lansio’n swyddogol ei Bapur Gwyn Tai.
Dydd Llun 21 Mai 2012

Mae’r Papur Gwyn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cynnig dulliau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol dewr ac uchelgeisiol ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd, i wella amodau o fewn y sector rhentu preifat ac i ddarparu mwy o dai, yn ogystal â chynigion ar gyfer diwygio tenantiaethau. Nodir ynddo hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddod â digartrefedd ymhlith teuluoedd i ben yng Nghymru erbyn 2019 ac yn sicrhau bod gwell help ar gael i’r bobl hynny sy’n eu cael eu hunain yn ddigartref.

Nod y camau gweithredu sydd yn Papur Gwyn yw mynd i’r afael â’r problemau yn y sector tai drwy fwrw golwg eang ar y system gyfan yn hytrach nag ymdrin â thai mewn modd tameidiog fel y gwnaed yn y gorffennol gyda’r sylw yn cael ei roi ar dai cymdeithasol traddodiadol yn bennaf.

Daw’r Papur Gwyn ar frig y targedau clir a heriol a gyhoeddwyd wythnos diwethaf er mwyn sicrhau bod o leiaf 12,500 mwy o gartrefi ar gael drwy adeiladu tai fforddiadwy newydd a sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Dywedodd y Gweinidogm,

“Mae’n golygu llawer mwy na sicrhau bod gan bawb do uwch eu pen. Mae problemau’n ymwneud â thai yn effeithio ar iechyd a lles pobl yn ogystal â’u gallu i ddod o hyd i swydd a’i chadw. Yn achos plant, dyma’r sylfaen ar gyfer gweddill eu hoes. Yn gryno, mae tai yn rhan hanfodol o’r gwaith o gyflawni nifer o’n nodau fel Llywodraeth flaengar.

“Mae’r Papur Gwyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cadarn i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a’n hawydd i wneud yr hyn allwn ni i helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion o ran tai. Byddwn yn uchelgeisiol, byddwn yn arloesol a byddwn yn cydweithio i sicrhau gwir newid i leihau tlodi, mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n bodoli rhwng rhai o’n cymunedau, datblygu sgiliau a chynyddu swyddi, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a helpu i wella iechyd a lles pobl.

“Edrychaf ymlaen at weithio ar draws y Llywodraeth, gyda phob plaid wleidyddol a’r rhanddeiliaid oll er mwyn gwireddu’r cynigion hyn a chyflawni ein nod cytûn o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."

Mae ein hymrwymiad i ddarparu tai cymdeithasol yn gadarn o hyd ond rydym hefyd yn datblygu dulliau mwy cynhwysfawr o lawer sy’n seiliedig ar ffyrdd newydd ac arloesol o helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion am dai a ffyrdd newydd o ariannu hyn oll. Mae hyn yn cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar dai cydweithredol sy’n gweddu’n dda â hanes cymdeithasol grymus Cymru.

Golyga ymateb i rai o’r heriau fod angen cyflwyno deddfwriaeth newydd ond ceir yn y Papur Gwyn raglen gynhwysfawr o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd i helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion o ran tai.

Eir ati yn y Papur Gwyn i nodi fy nghynigion sy’n cynnwys:

  • Cryfhau rôl statudol awdurdodau lleol i ganfod yr anghenion o ran tai a mynd i’r afael â’r anghenion hynny yn lleol,
  • Mynd i’r afael â gwastraff ac effaith andwyol eiddo gwag drwy roi pŵer disgresiwn i’r awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o dreth gyngor ar adeiladau sydd wedi bod yn wag ers dros flwyddyn,
  • Hoelio mwy o sylw ar fynd i’r afael â chartrefi gwag drwy’r rhaglen genedlaethol “Troi Tai’n Gartrefi” a rhaglenni eraill,
  • Tynnu’n ôl o system Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai ar ôl i’r trafodaethau gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi ddod i ben,
  • Cydweithio rhanbarthol effeithiol ar swyddogaethau a gwasanaethau tai, gan gynnwys y rhaglen Cefnogi Pobl,
  • Gwella’r amodau ar gyfer unigolion a theuluoedd sy’n rhentu eu cartrefi gan landlordiaid preifat drwy wella arferion landlordiaid, asiantaethau gosod ac asiantaethau rheoli. Bydd landlordiaid da o fewn y sector preifat yn elwa ar y newidiadau hyn am na fydd yn caniatáu i arferion gwael barhau.

Er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i gartrefi sy’n addas i’w hanghenion ar wahanol adegau yn ystod eu hoes ac wrth i’w hamgylchiadau newid, mae angen i ni ei gwneud hi’n haws iddynt symud rhwng gwahanol fathau o denantiaethau a landlordiaid. Mae’r gyfraith dai bresennol yn fanwl ac yn gymhleth a rhaid mynd i’r afael â hyn drwy ymgynghori â phawb sy’n ymwneud â’r sector tai, a chyda’r tenantiaid yn arbennig.  Bwriad y Gweinidog felly yw mynd ati i gyflwyno rhaglen i ddiwygio tenantiaethau, drwy gyfrwng Bil ar wahân, yn ystod oes y Cynulliad hwn.

Aeth y Gweinidog yn ei flaen i ddweud,

“Mae’r £5 miliwn a neilltuwyd ar gyfer ein menter i ailddefnyddio eiddo gwag yn dangos ein bod yn ymrwymedig i sicrhau y bydd tai yn flaenoriaeth yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod er gwaethaf setliadau cyllidol anodd. Prawf pellach o’r ymrwymiad hwn yw y gallaf gyhoeddi heddiw y bydd cyllid ychwanegol yn cael eu neilltuo er mwyn cefnogi Bond Tai Cymru a lefelau uwch o fuddsoddi yn y fenter ar gyfer eiddo gwag.

“Nod y rhaglen yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a chymunedau.
Mae’n golygu llawer mwy na sicrhau bod gan bawb do uwch eu pen.”

Mae’r Papur Gwyn yn agored i’r cyhoedd ymgynghori yn ei gylch hyd at 17 Awst 2012 gyda’r nod o gyflwyno’r Bil yn yr hydref 2013.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tai Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell

Tagiau

Tai a chymunedau 21 Mai 2012 Tai Programme for Government - Homes Programme for Government - Supporting People Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i