Wrth roi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau cynhwysiant digidol, dywedodd Jane Hutt:
“Dylai pawb allu manteisio ar y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf, ac eto, yn 2010 ‘doedd traean pobl Cymru ddim yn gallu cael mynediad at y rhyngrwyd.
“I unigolyn, gall hyn olygu nad oes modd ymgeisio am swyddi sy’n cael eu hysbysebu ar-lein yn unig, neu falle bydd yn colli allan ar y fargen orau ar ei yswiriant car. Ni fydd chwaith yn gallu gwneud cwyn neu lofnodi deiseb ar-lein, er bod y rheini’n ddulliau cyffredin iawn o leisio barn erbyn hyn.
“Rwy’n arbennig o awyddus i sicrhau nad yw’r elfen ddigidol o gynigion Diwygio Lles Llywodraeth y DU yn golygu y bydd bobl fwyaf difreintiedig Cymru’n methu â defnyddio’r gwasanaethau.
“Roedd ein Fframwaith Cynhwysiant Digidol ni yn dangos mai pobl hŷn, y di-waith, trigolion tai cymdeithasol neu’r anabl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru gan amlaf.”
Targed Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod canran yr oedolion nad oes ganddynt fynediad at y We yn mynd i lawr i 25% erbyn 2015. Yn ôl ystadegau diweddaraf Ofcom, a gyhoeddwyd yn 2011, roedd 29% o oedolion Cymru heb fand eang – gostyngiad o 7% ers 2010.
Ychwanegodd Jane Hutt:
“Rydym yn gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd ein targed ond mae llawer o waith i’w wneud eto. Fel Llywodraeth, byddwn yn dal ati i lunio polisïau, strategaethau a’n mentrau sy’n helpu i wireddu ein gweledigaeth ni o sicrhau cynhwysiant digidol yng Nghymru.
“Rydw i wedi ymweld â nifer o brosiectau dros y flwyddyn ddiwethaf a gallaf dystio bod y rhyngrwyd yn cael effaith bositif iawn ar fywydau pobl. Gwelais drigolion cartrefi gofal yn defnyddio Skype i sgwrsio â’u teulu ac eraill yn llwyddo i brynu nwyddau ar-lein am y tro cyntaf, ac roedd mor braf gweld yr hyder a hapusrwydd y mae hyn yn ei roi i bobl.
“Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar bob elfen o gymdeithas, felly mae angen i ni gydweithio ar draws pob sefydliadau a phob sector. Bydd cael mwy o bobl ar-lein yn arwain at bosibiliadau economaidd sylweddol. Mewn oes gynyddol ddigidol, mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i gyflawni potensial digidol Cymru yn llawn, rhag i bobl gael eu gadael ar ôl. Yn syml, rwy’n ystyried bod hyn yn hollbwysig i gymdeithas, i’r economi – i bawb.”











