O dan arweiniad Timebanking Wales, bydd y prosiect yn gwahodd pobl yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr i ymuno â Rhwydweithiau Mentrau Cymunedol a derbyn arolwg o sgiliau er mwyn darganfod a oes ganddyn nhw dalentau cudd y gallan nhw eu defnyddio yn eu hardaloedd.
Bydd y rheini fydd yn ymuno â'r Rhwydweithiau Mentrau Cymunedol yn cael cydnabyddiaeth am hynny trwy gredydau amser sy'n cyfateb i'r amser y byddan nhw'n ei dreulio yn defnyddio eu sgiliau. Yna, gellir cyfnewid y credydau hyn am amser cyfatebol ar weithgareddau addysgol a diwylliannol gan ddatblygu sgiliau newydd i wella'u galluoedd a'u cyfloedd gwaith.
Disgwylir y bydd rhai o'r unigolion fydd yn cymryd rhan yn y prosiect yn mynd ati i sefydlu eu mentrau cymdeithasol eu hunain er mwyn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau yn eu cymunedau - gwasanaethau fel diwydiannau creadigol, arlwyo, tirweddu a mentrau amgylcheddol.
Daw £1.8 miliwn o'r cyllid oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy law Llywodraeth Cymru a daw gweddill yr arian gan y Rhwydweithiau fydd yn cymryd rhan.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, Alun Davies:
"Mae datgloi potensial pobl yn ein cymunedau'n hanfodol iddynt allu ffynnu yn y dyfodol, creu mentrau sy'n torri tir newydd ac sy'n darparu gwasanaethau lleol a helpu'r economi gymdeithasol i dyfu.
"Rwy'n hapus iawn ein bod wedi gallu buddsoddi arian o Ewrop yn y fenter hon fydd yn annog diwylliant o fentergarwch yn lleol trwy ddod o hyd i sgiliau a doniau cudd y bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn.
"Gan edrych ymlaen, rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o unrhyw arian a gawn gan Ewrop yn y dyfodol ar gyfer datblygu prosiectau arloesol, ansawdd uchel sy'n creu swyddi. Mae'n bwysig bod y broses o wneud cais am arian yn un hawdd."
Dywedodd Geoff Thomas, Prif Weithredwr Timebanking Wales:
"Daw diwydiannau trwm fyth yn ôl i ardaloedd ôl-ddiwydiannol Cymoedd y De ac ni fyddan nhw byth eto'n ddibynnol ar ddulliau gweithgynhyrchu ysgafn. Yr her yw meithrin a hybu diwylliant newydd o dwf cynhenid sy'n arwain at greu cyfoeth. Y bobl, ac o roi'r cyfle iawn iddynt, eu gallu i greu'r dyfodol, yw'r gwir gyfoeth sy'n parhau yng Nghymoedd y De."
Astudiaeth achos:
Mae'r Rhwydweithiau Mentrau Cymunedol yn adeiladu ar lwyddiant mentrau sy'n ymwneud â bancio amser sydd eisoes ar waith yng Nghymru. Yn 2005, ymunodd Timebanking Wales â'r Ymddiriedolaeth Datblygu Creadigrwydd, menter gymdeithasol ym Mlaengarw, Pen-y-bont ar Ogwr - ardal lle mae diweithdra'n broblem fawr - i geisio dod o hyd i ddoniau'r bobl leol.
Gan ganolbwyntio ar yr hyn gall pobl ei wneud, aethpwyd ati i gynnal amrywiaeth o weithgareddau gyda chynlluniau bancio amser fel caffi cymunedol, adfywio ffisegol a phrosiectau celf. Cynhaliwyd llawer o'r gweithgareddau yn Neuadd y Gweithwyr Blaengarw, gweithgareddau fel drama, digwyddiadau cymdeithasol, cyfleoedd hyfforddi, gofal plant a gwasanaethau swyddfa.
Dywedodd Dawn Davies, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Datblygu Creadigrwydd:
"Trwy'r cynllun bancio amser, mae pobl leol yn cyd-gynhyrchu gwasanaethau a mentrau lleol sy'n wirioneddol yn ateb gofynion pobl gan eu bod wedi cael eu dylunio ac yn cael eu darparu gan y bobl eu hunain. Mae ein holl gynlluniau, fel y caffi a'r cynllun bocs bwyd go iawn, yn cynnig cyfleoedd i hyfforddi ac i ddysgu sgiliau sy'n galluogi pobl i fuddsoddi amser yn eu cymunedau ac ar yr un pryd, i ddatblygu eu gyrfaoedd.
"Gyda'r cynllun bancio amser, rydym hyd yn oed yn cynnig gwasanaethau gofal plant fel y gall pobl gymryd rhan yn ein gweithgareddau. Gall hyn yn ei dro eu helpu i ddod o hyd i waith neu i sefydlu eu busnes eu hunain."
Mae'r dull hwn o weithio wedi hwyluso datblygu'r Rhwydweithiau Mentrau Cymunedol.
Dyweodd Geoff Thomas, Prif Weithredwr Timebanking Wales:
"Prif elfennau'r Rhwydweithiau Mentrau Cymunedol yw'r aelodau a'r cydfuddiannau sydd, trwy gydweithio â'r Ymddiriedolaeth Datblygu Creadigrwydd, wedi cael eu profi, eu diwygio a'u gwella.
"Gyda'n gilydd, fe lwyddwyd i ddatblygu'r dull hwn i weithredu fel sbardun i greu mwy o gyfleoedd, hybu creadigrwydd pobl leol a gwella datblygiad economaidd y gymuned trwy greu amodau newydd ar gyfer twf."











