Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn galw ar gymunedau ledled Cymru i gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2012

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Lluoedd Arfog, Teuluoedd a chyn-filwyr yng Nghymru, wedi galw ar gymunedau Cymru i gyfrannu at, a chefnogi, digwyddiadau’n arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar 30 Mehefin.
Dydd Iau 28 Mehefin 2012

Eleni, caiff y digwyddiad cenedlaethol ei gynnal yn Plymouth ond caiff llawer iawn o ddigwyddiadau eraill eu cynnal ledled y wlad i gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog. Yng Nghymru, bydd Prif Weinidog Cymru yn bresennol yn y diwrnod o ddathliadau yng Nghae Cooper’s, Caerdydd, tra bydd Carl Sargeant yn bresennol ar gyfer Gorymdaith a Dathliad Diwrnod y Lluoedd Arfog Gogledd Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 7 Gorffennaf.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i bobl ddangos eu cefnogaeth i’r dynion a’r menywod sy’n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cyfraniad y mae’r bobl hyn yn ei wneud i’n gwlad.

"Dylem fod yn ddiolchgar iawn i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr. Maen nhw’n gwneud gwaith da iawn i’n diogelu ni, ein rhyddid a’n ffordd o fyw. Mae rhyfeloedd diweddar, a’r rhai sy’n parhau hyd heddiw, yn dangos yr hyn y mae’r lluoedd arfog yn aberthu ar ein rhan.

"Dwi’n siŵr y bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni yn un arbennig a hithau’n 30 mlynedd ers diwedd Rhyfel Ynysoedd Falkland. Aberthodd 255 aelod o Luoedd Arfog Prydain eu bywydau yn y frwydr honno, yn amddiffyn eu gwlad.

"Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn rhoi cyfle arall i bobl ledled Cymru gofio’r bobl fu farw yn Rhyfel Ynysoedd Falkland ac mewn rhyfeloedd eraill. Rydw i’n awyddus i sicrhau bod gennym ni, fel gwlad, gyfle i dalu teyrnged iddyn nhw.


"Mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i roi cefnogaeth ariannol i ddigwyddiadau blaenllaw yn y Gogledd ac yn y De (hyd at £10,000 yr un), a hynny’n barhaus, i sicrhau y cynhelir dathliadau ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Tai a chymunedau 28 Mehefin 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i