A galwodd y Gweinidog ar bobl i ymateb i’r ymgynghoriad wrth iddo siarad mewn digwyddiad o bwys mawr ym maes tai yng Nghaerdydd. Y Sefydliad Tai Siartredig oedd yn cynnal y digwyddiad ar gyfer pobl broffesiynol ym maes tai, datblygwyr tai, tenantiaid ac eraill yn ddiweddarach yn y dydd.
Cafodd y ffilm Loserville £30,000 drwy Raglen Grantiau Digartrefedd Llywodraeth Cymru ac fe’i dangoswyd ar BBC Wales ym mis Mawrth. Crëwyd y ffilm fel rhan o brosiect o dan arweiniad Ysgol Ffilm Casnewydd. Mae’n hyfforddi pobl ifanc sydd wedi bod yn ddigartref i ddod yn addysgwyr cyfoedion trwy fynd i ysgolion a lleoliadau eraill ble y ceir pobl ifanc i ddangos y ffilm ac i arwain trafodaeth ar y penderfyniadau a wnaed gan y cymeriadau a goblygiadau’r penderfyniadau hynny.
Mae’r prosiect arloesol hwn hefyd wedi cael cefnogaeth Rhwydwaith Digartrefedd yr Awdurdodau Lleol, Shelter Cymru a sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithio ym maes digartrefedd ymhlith ieuenctid. Cafodd glod mawr gan y rheini sy’n ceisio helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau deallus ynghylch tai.
Yn y Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad ym mis Mai, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig dulliau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol i fynd i’r afael â Thai yng Nghymru. Mae hefyd yn gosod y seiliau ar gyfer y Bil Tai, a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2013.
Yn ogystal â mesurau i fynd i’r afael â digartrefedd, mae’n nodi’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith teuluoedd yng Nghymru erbyn 2019, a sicrhau bod gwell help ar gael i’r bobl hynny sy’n eu cael eu hunain yn ddigartref.
Tra oedd yn siarad yn Y Cwestiwn Mawr - Sefydliad Tai Siartredig, dywedodd y Gweinidog:
"Y bore yma, cwrddais â phobl ifanc a phob un ohonynt wedi bod yn ddigartref. Maent bellach yn gwneud gwaith er mwyn atal digartrefedd. Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod ein deddfwriaeth yn gywir ynghyd â’r holl waith arall rydym yn ei wneud er lles y bobl ifanc hyn ac eraill sydd angen tai fforddiadwy a boddhaol sy’n gweddu i’w hamgylchiadau. Er inni weithio â sawl grŵp rhanddeiliad wrth baratoi’r Papur Gwyn, rydw i dal yn awyddus i glywed gan gymaint o bobl ag sy’n bosibl. Felly, rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn tai i rannu eu sylwadau ar y Papur Gwyn Tai."











