Mae Pêl-droed Stryd Cymru wedi derbyn cyllid yn ddiweddar gan Gronfa’r Loteri Fawr i greu cynghrair newydd yng Nghasnewydd/Caerdydd ac Abertawe. Bydd y grant o £172,520 yn golygu y gall y rhaglen greu rhwydwaith bêl-droed stryd ar gyfer y digartref neu bobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol ledled Cymru am y dair mlynedd nesaf.
Meddai Mr Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth,
“Gall chwaraeon gael nifer o effeithiau positif fel gwella iechyd a ffitrwydd corfforol, hunan-barch, hybu dinasyddiaeth dda a rhoi pwrpas i bobl mewn bywyd.
“Yn anffodus, mae digartrefedd yn cynyddu, gyda mwy o bobl mewn perygl o golli eu cartrefi ac yn ei chael yn anodd i sefydlu cartref diogel a sefydlog.
“Mae’r cynghreiriau pêl-droed newydd sydd wedi’u sefydlu yn nwyrain a gorllewin Cymru yn boblogaidd iawn ac rwy’n llongyfarch y rhai sy’n rhan o’r cynllun am y gwaith y maen nhw wedi’i wneud yn trefnu’r cynghreiriau. Rwy’n ymwybodol bod cynlluniau hefyd i sefydlu cynghrair yng Ngogledd Cymru, felly bydd diddordeb yn cael ei greu ledled Cymru.”
Prosiect cynhwysiant cymdeithasol yw Pêl-droed Stryd Cymru sydd wedi’i gynllunio mewn partneriaeth â Gofal a Chymorth Gwalia, sy’n anelu at gysylltu â’r rhai hynny sydd bellaf i ffwrdd o’r brif ddarpariaethau chwaraeon.
Yn 2009 rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad £1,500 i Dîm Pêl-droed y Dreigiau (sydd dan reolaeth Pêl-droed Stryd Cymru) i’w galluogi i gystadlu yng Nghwpan y Digartref ym Milan. Enillwyd nifer o gemau ganddynt yn y twrnamaint a bu i’r tîm fwynhau’r profiad yn fawr, ac roeddent yn falch iawn o gynrychioli Cymru.
Er nad oedd yn bosib iddyn nhw anfon tîm swyddogol yn 2011, mae Cymru bellach wedi’u gwahodd i anfon tîm i Mecsico ym mis Hydref ar gyfer cystadleuaeth eleni. Diolch i’r arian gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Gwalia a phartneriaid chwaraeon eraill, mae bellach yn bosib i Gymru anfon tîm i gemau Cwpan y Byd ar gyfer y Digartref ym Mecsico ym mis Hydref, fydd yn golygu y byddant yn cystadlu yn erbyn timau o 56 o wledydd ledled y byd.
Aeth y Gweinidog yn ei flaen,
“Dwi’n gwybod bod y chwaraewyr sydd wedi’u dewis yma heddiw, a llongyfarchiadau i chi i gyd – dwi’n siŵr y byddwch yn mwynhau’r cyfle gwych hwn a bydd yn ddigwyddiad i’w gofio.
“Bydd dros 50 o dimau ledled y byd yn cystadlu ac mae’n dda gwybod y bydd Cymru yn un ohonyn nhw a bod diddordeb ledled y byd mewn cefnogi’r rhai hynny sy’n gweld eu bod yn ddigartref.”
Mae wedi’i brofi y gall gweithgareddau hamdden a diwylliannol chwarae rôl hollbwysig wrth fagu hyder pobl ddigartref i fynd i’r afael â phroblemau hirdymor, ac mae Pêl-droed Stryd Cymru hefyd yn cynnig cyngor a chymorth ym maes tai.
Gall Pêl-droed Stryd chwarae rhan wrth dorri’r cylch digartrefedd ymysg pobl fregus. Mae’r rhaglen yn monitro datblygiad y cyfranogwyr o ran digartrefedd ac anghenion eraill fel iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
Mae’r gynghrair yn cynnwys dynion a merched, a rhoddir pwyntiau tegwch wrth chwarae i dimau merched a dynion cymysg a pharch geiriol a chorfforol.











