Bydd adnewyddu neuadd y dref, sy’n adeilad rhestredig, yn gwella amgylchedd ffisegol cyffredinol y dref ac yn cyfrannu tuag ei hadfywiad economaidd. Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau bydd hefyd yn gartref i Fenter Môn a disgwylir iddo greu dros 40 o swyddi yng nghanol y dref.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae adnewyddu adeilad rhestredig bob amser yn her. Mae lleoliad neuadd y dref Llangefni yng nghanol y dref yn golygu bod y gwaith o’i hadnewyddu a’i defnydd yn y dyfodol yn hollbwysig i adfywio’r ardal. Rydw i wrth fy modd y gallwn gyfrannu swm pellach o £170,000 i’r prosiect drwy raglen ardal adnewyddu Môn a Menai.”
Cafodd Neuadd y Dref ei hadeiladu yn 1871 ond oddi ar 1996 mae ei chyflwr wedi dirywio. Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers deng mlynedd a mwy.
Dywedodd Gerallt Llewelyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:
“Mae’n bwysig ein bod yn gwneud defnydd newydd o’r hen adeiladau sy’n rhan o’n treftadaeth. Mae Neuadd y Dref yn bwysig i dref farchnad Llangefni ac mae’r buddsoddiad hwn yn golygu rhoi hwb i’w rôl fel canolbwynt i ddatblygiad pellach.”
Mae’r Cynghorydd Bryan Owen, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, wedi croesawu’r newyddion bod arian adfywio ychwanegol ar gael ar gyfer ardal Môn a Menai.
Ychwanegodd:
"Mae prosiect ailddatblygu neuadd y dref Llangefni yn fuddsoddiad mawr i ganol y dref. Mae neuadd y dref yn adeilad hanesyddol ac eiconig ac edrychaf ymlaen at ei gweld yn chwarae rhan bwysig yn adfywio canol y dref a’r economi leol."
Ardal Môn a Menai yw’r ail Ardal Adfywio Strategol yng Nghymru i’w chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ers 2008. Ers hynny mae dros 100 o brosiectau wedi’u cymeradwyo ynghyd â £21m o arian yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Llwyddodd hyn i ddenu arian sylweddol o’r Undeb Ewropeaidd a buddsoddiad ariannol pellach i’r ardal.











