Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Arian i bobl hŷn aros yn eu cartrefi eu hunain

Mae gwasanaethau Gofal a Thrwsio ledled Cymru wedi derbyn £4.67 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Dydd Gwener 13 Ebrill 2012

Mae’r gwasanaeth yn cynorthwyo pobl hŷn i drwsio, gwella ac addasu eu cartrefi fel eu bod yn gallu parhau i fyw’n gysurus ac annibynnol, a hynny trwy gynnig amrywiaeth o wasanaethau fel:

  • cydlynu’r holl wasanaethau sydd eu hangen i gwblhau’r gwaith yn llwyddiannus
  • cyngor am yr opsiynau sydd ganddynt o ran tai
  • darparu atebion sydyn yn fewnol, yn aml trwy wasanaethau cynnal a chadw Gofal a Thrwsio

Wrth gyhoeddi’r arian, meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:

"Mae Gofal a Thrwsio yn wasanaeth gwerthfawr i alluogi pobl hŷn a bregus trwy Gymru barhau i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosibl. Trwy wneud addasiadau syml i gartref rhywun, fel gosod canllawiau bychain neu risiau gwell, gellir cael effaith fawr ar ansawdd eu bywyd.

"Mae ymchwil diweddar wedi dangos bod pob £1 sy’n cael ei wario ar Ofal a Thrwsio yn arbed £7.50 i’r trethdalwr o ran costau’r GIG a Gofal Iechyd, felly mae gwario arian ar wasanaethau fel hyn hefyd yn gwneud synnwyr ariannol, yn enwedig yn yr adeg anodd hon."

Meddai’r Gweinidog:

"Mae Llywodraeth Cymru yn dal wedi ymrwymo i wella bywydau pobl hŷn trwy sicrhau eu bod yn gallu byw’n annibynnol cyhyd y byddant yn dymuno hynny. Mae pobl yn byw am fwy o amser, ac fe ddylent hefyd fod yn gallu byw bywyd gweddol. Mae’r arian hefyd yn helpu pobl hŷn i ddychwelyd adref yn gynt ar ôl treulio amser yn yr ysbyty, a dyma enghraifft o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella’r gofal i gleifion ac yn mynd i’r afael â’r broblem oedi wrth drosglwyddo o’r naill ofal i’r llall."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cefnogi Pobl

Tagiau

Tai a chymunedau 13 Ebrill 2012 Tai Programme for Government - Homes Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i