Caiff y 7,500 o gartrefi fforddiadwy eu darparu drwy gyfuniad o gymhorthdal gan Lywodraeth Cymru a gwariant ar ran darparwyr tai eraill.
Mae’r targed yn cynnwys 7,500 o gartrefi fforddiadwy – 1,000 yn fwy na tharged blaenorol y llywodraeth – a’r 5,000 o gartrefi gwag fydd yn cael eu defnyddio unwaith eto drwy’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi a lansiwyd yn gynharach eleni.
Caiff y targed hwn ei gyflawni drwy :
- Sicrhau arian Grant Tai Cymdeithasol ychwanegol gwerth £22 miliwn sy’n golygu bod cyfanswm o £97 miliwn ar gael yn 2011-12.
- Cefnogi datblygu Bond Tai Cymru.
- Cyflymu’r broses o ryddhau tir ar gyfer tai.
- Cefnogi modelau newydd o ddatblygu tai e.e. Pont Trelái.
- Datblygu dulliau newydd ac arloesol o gael tai.
- Sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i fedru gadael system Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai.
Caiff y Papur Gwyn a fydd yn nodi cynigion y Llywodraeth ar gyfer deddfwriaeth newydd a chamau gweithredu anneddfwriaethol eraill i helpu i ddiwallu’r angen am dai yng Nghymru, ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.
Gan siarad mewn datblygiad o eiddo Cymdeithas Dai Cymuned Caerdydd yn Colchester Avenue, Caerdydd a gafodd ei gyllido drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog:
"Mae cartref boddhaol a diogel yn hawl ddynol sylfaenol ac mae cynyddu’r cyflenwad tai a’r dewis sydd ar gael yn un o brif ymrwymiadau’n Rhaglen Lywodraethu. Mae’r targed hwn yn arwydd clir o’n hymrwymiad i dai yng Nghymru.
"Ni fydd y targed hwn yn un hawdd i’w gyrraedd. Er hynny, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn darparu’r tai hyn. Mae dirfawr eu hangen – nid yn unig er mwyn diwallu anghenion pobl o ran tai ond hefyd er mwyn creu swyddi a helpu i ysgogi’r economi.
"Mae pwysau mawr i ddarparu tai fforddiadwy ledled Cymru a gwyddom nad oes digon o dai o’r fath yn bodoli i ddiwallu’r angen. Wrth i gyllidebau Llywodraeth Cymru grebach, mae’r angen am dai yn cynyddu. Mae’n gwbl hanfodol felly ein bod yn sicrhau bod y cyllidebau sydd gennym yn mynd ymhellach. Rwyf am ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o ddod ag arian newydd i mewn i’r sector tai, ac rwyf hefyd am ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu tai, megis tai cydweithredol a mentrau arloesol fel Partneriaeth Tai Cymru.
"Mae’r nod, sef 12,500 o dai, yn un uchelgeisiol ond y mae, yn fy marn i, yn un y mae modd ei gyrraedd. Er mwyn llwyddo felly bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai a’r sector preifat weithio gyda’i gilydd er mwyn denu arian o ffynonellau eraill i sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian fel y gallwn ddarparu’r cartrefi hyn y mae dirfawr eu hangen ar gyfer pobl Cymru.
"Mae’n dipyn o her ond yn her rwyf yn edrych ymlaen ati gyda help ein holl bartneriaid."











