Wrth agor Canolfan Cam-drin Domestig Aberconwy yng Nghyffordd Llandudno, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, y byddai’r adnoddau’n gwella’r gwasanaethau sydd ar gael yn yr ardal i ddioddefwyr cam-drin domestig a’u teuluoedd.
Sefydlwyd canolfan amlbwrbpas Gwasanaeth Cam-drin Domestig Aberconwy i ddarparu gwasanaeth a chyfleusterau ar gyfer pobl syddd am drafod materion yn ymwneud â cham-drin domestig a diogelwch cymunedol. Mae’n cefnogi dynion a merched sydd wedi dioddef cam-drin domestig.
Meddai Carl Sargeant
"Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cymeradwyo cyllid o hyd at £138,000 yn 2010/11 i dalu am adnewyddu’r adeilad. Mae hynny’n dangos mor benderfynol yr ydw i, hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd anodd bresennol, i wneud yn siŵr bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi yma yn y Gogledd ac yng ngweddil Cymru. Rwy’n gwybod bod pawb sy’n rhan o’r prosiect yn edrych ymlaen at weithio mewn adeilad pwrpasol fel hwn.
"Mae’r gallu i gynnig gwasanaethau mewn amgylchedd fel hwn yn allweddol o ran parchu urddas menywod sy’n dioddef trais a phobl sy’n dioddef cam-drin domestig. O hyn ymlaen byddant yn gallu siarad gyda gweithwyr proffesiynol mewn lle diogel, cyfforddus a chyfrinachol.
"Fe hoffwn i ddiolch i Wasanaethau Cam-drin Domestig Aberconwy am eu dyfalbarhad wrth ddatblygu’r gwasanaeth hollbwysig hwn."











