Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Diwrnod mawr i Swyddfeydd Post Cymru

Bydd swyddfeydd post ledled Cymru yn derbyn grantiau gwerth cyfanswm o £526,698.45, cyhoeddodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Dydd Iau 02 Awst 2012

Cafodd y grantiau eu cymeradwyo o dan y Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post ddiwygiedig sy’n helpu swyddfeydd post lleol i ehangu eu busnesau a chynnig gwasanaethau newydd i’r gymuned.

Ceir tri chategori o grantiau o fewn y Gronfa; grantiau cyfalaf o hyd at £5,000; grantiau cyfalaf o rhwng £5,001 a £20,000; a grantiau refeniw o hyd at £500 ar gyfer cyngor busnes.

Dyma’r cylch gyntaf o gyllid Arallgyfeirio Swyddfeydd Post i’w gyhoeddi ers i’r cynllun gael ei werthuso yr haf diwethaf. Mae’r gronfa wedi’i diwygio mewn ymateb i ganfyddiadau’r gwerthusiad annibynnol. Un o’r prif newidiadau i’r cynllun ar ei newydd wedd yw y rhoddir pwyslais ar geisiadau sydd wedi’u datblygu’n well.

Cyhoeddodd y Gweinidog y cyllid ar ymweliad â Swyddfa’r Post Penarlâg yn Sir y Fflint, sy’n derbyn grant cyfalaf yn y categori hyd at £5,000.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi’r rhwydwaith swyddfeydd post yng Nghymru.

"Mae swyddfeydd post yn cynnig gwasanaethau amrywiol i gymunedau lleol, ac o’u colli gall y cymunedau hynny gael eu hallgáu yn gymdeithasol ac yn ariannol.

"Yn dilyn y gwerthusiad o’r cynllun yr haf diwethaf rydyn ni wedi derbyn argymhellion yr adroddiad annibynnol ac wedi diwygio’r cynllun yn unol â hynny yn ogystal ag ystyried y gwersi a ddysgwyd gennym ni wrth redeg y cynllun dros y tair blynedd gyntaf.

"Rwy’n hynod falch bod 48 o swyddfeydd post wedi elwa ar grantiau cyfalaf o’r cylch diweddaraf hwn o’r Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post a bod 10 o swyddfeydd post eraill yn derbyn grantiau refeniw ar gyfer cyngor busnes. Rwy’n hyderus y bydd y cynllun yn parhau i gynnig cymorth y mae gofyn mawr amdano i’r rhai sy’n rhedeg is-swyddfeydd post i’w galluogi i barhau i redeg eu busnesau presennol a chynnig gwasanaethau ehangach i’w cymunedau ar yr un pryd."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post

Tagiau

Tai a chymunedau 02 Awst 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i