Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn cyhoeddi hwb £41m i helpu Cymru drwy’r dirwasgiad

Heddiw, mae Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi cyhoeddi dros £40 miliwn o wariant cyfalaf i roi hwb economaidd pwysig i helpu pobl, cymunedau a busnesau drwy’r dirwasgiad byd-eang, yn ogystal â chyflawni agenda Cymru’n Un.
Dydd Llun 06 Gorffennaf 2009

Y £41.3 miliwn ychwanegol hwn o arian cyfalaf yw’r ychwanegiad at gyllideb gwario cyfalaf Llywodraeth y Cynulliad o ganlyniad i gyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth y DU eleni. Caiff yr arian sy’n benodol ar gyfer 2009/10 ei ddosbarthu ar draws meysydd portffolio Llywodraeth y Cynulliad fel a ganlyn:

  • £1 miliwn i’r Adran Dreftadaeth i’w fuddsoddi mewn diwylliant. Bydd y Gweinidog dros Dreftadaeth yn rhoi mwy o fanylion ynghylch y dyraniad hwn yn ddiweddarach heddiw.
  • £12.2 miliwn i’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn canolbwyntio ar y sector Addysg Bellach yng Nghymru.
  • £8.6 miliwn i’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • £12 miliwn i Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. Bydd y buddsoddiad yn cael ei wario ar fesurau ychwanegol i wella effeithlonrwydd ynni, a chyflymu prosiectau tai ledled Cymru.
  • £7.5 miliwn i Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Bydd cyhoeddiadau’n cynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau ffordd a rheilffordd hanfodol.

Meddai’r Gweinidog:

“Bydd y dyraniad cyfalaf hwn yn helpu Llywodraeth y Cynulliad i gyflawni ein hymrwymiadau Cymru’n Un yn ogystal â helpu Cymru drwy’r dirwasgiad drwy roi hwb i gyflogaeth.  

“Bydd Gweinidogion y portffolios perthnasol yn rhoi manylion y prosiectau cyfalaf y bydd yr arian hwn yn cael ei wario arnyn nhw yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf.

“Bydd yr arian cyfalaf ychwanegol hwn a ddyrannwyd yn helpu prosiectau llafurddwys ledled Cymru fel rhan o’n hymdrechion i wrthsefyll y dirwasgiad. Mae’r cynigion yn cynrychioli gwerth da am arian, gan sicrhau ein bod ni’n cael y gorau posibl o’r bunt Gymreig er mwyn rhoi’r manteision mwyaf i unigolion, busnesau a chymunedau ledled Cymru.”

6 Gorffennaf 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 06 Gorffennaf 2009 Arwain Cymru allan o'r dirwasgiad Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i